Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Ebrill 2017

Bryn Fôn yn ymuno efo Pobol y Cwm

Yn dilyn penwythnos o ddyfalu, cafodd y newyddion bod Bryn Fôn yn ymuno hefo Pobol y Cwm ei gadarnhau ar gyfrifon cymdeithasol y gyfres y bore ’ma.

Cyhoeddwyd y newyddion gyda fideo byr yn dangos yr actor a’r canwr poblogaidd yng Nghwmderi.

Bydd Bryn, sy’n hanu o Ddyffryn Nantlle, Gwynedd, i’w weld ar y sgrîn am y tro cyntaf yn opera sebon deledu hynaf y BBC nos Lun, Ebrill 10 ar S4C, wrth i’w gymeriad, Doctor Elgan Pritchard, gael ei alw i ddigwyddiad yn Llwyncelyn.

Wrth edrych ymlaen at ymuno gyda’r gyfres, dywedodd Bryn Fôn: “Dwi’n sylweddoli pa mor fawr ydy o a pha mor bwysig, a chymaint o ran ydy Pobol y Cwm o fywydau pobl ar draws Cymru, felly mae’n gynhyrfus iawn.

"Fel rhywun sy’n arfer mynd o job i job, fel arfer o fewn wythnosau i’w gilydd, mae meddwl am fod ynghlwm â rhywbeth am gyfnod hir hefyd yn brofiad newydd i mi.

“Mae hynny’n rhan o’r cynnwrf, mewn ffordd - bod yn rhan o greu cymeriad newydd sy’n mynd i ddod â stori newydd i’r Cwm, a dod â rhyw ddeinamig newydd i’r pentre’. A gobeithio y bydd o’n rhywbeth cynhyrfus i’r gwylwyr.”

Dywedodd Llyr Morus, cynhyrchydd cyfres Pobol y Cwm: “Mae cael cyhoeddi o’r diwedd fod Bryn yn ymuno â’r cast yn achlysur cyffrous iawn i ni fel cyfres - yn dilyn misoedd o gadw’r gyfrinach mae’n bleser cael siarad yn agored am y peth o’r diwedd!

"Mae Bryn yn actor profiadol a dawnus iawn, a’i apêl yn fawr ar draws Cymru, felly roeddem yn hynod falch pan dderbyniodd y cynnig i ymuno.

“Mae Doctor Elgan Pritchard yn ddyn gonest a chynnes ac yn ennyn diddordeb nifer o ferched y Cwm… ond pwy fydd yn mynd â’i fryd, ac aiff pob dim yn esmwyth wrth i berthynas y ddau ddatblygu?”

I ddathlu ymddangosiad cyntaf un o actorion a chantorion mwyaf poblogaidd Cymru ar Pobol y Cwm, bydd dydd Llun, Ebrill 10 yn Ddiwrnod Bryn Fôn ar BBC Radio Cymru - gyda chyfleoedd arbennig drwy’r dydd i glywed pytiau o gyfweliad estynedig newydd rhwng Bryn a Beti George ar Beti a’i Phobol.

Dros chwarter canrif ers i Bryn gael ei holi gan Beti am y tro cyntaf ar y gyfres, bydd yn gyfle iddi geisio cael rhagor o fanylion ganddo am ei gymeriad newydd yng Nghwmderi, yn ogystal â holi’r “actor, dramodydd, cyfarwyddwr, canwr, cyfansoddwr ac ymgyrchydd”, fel y bydd yn cyfeirio ato ar y rhaglen, am lu o bynciau amrywiol eraill. Bydd y cyfweliad yn cael ei ddarlledu’n llawn hefyd ddydd Sul, Ebrill 9.

Hefyd ar Radio Cymru ar Ddiwrnod Bryn Fôn bydd sesiwn acwstig arbennig newydd gan Bryn yn cael ei darlledu am y tro cyntaf, gyda recordiadau newydd sbon o bedair cân.

A bydd hanner awr o geisiadau am ganeuon o gatalog sylweddol Bryn Fôn yn cael eu darlledu yn ystod rhaglen Tommo yn y prynhawn.

Yn syth ar ôl darllediad Pobol y Cwm ar S4C am 8pm nos Lun, bydd cyfweliad arbennig hefo Bryn Fôn yn fyw ar gyfrif Facebook BBC Cymru Fyw, gyda Lisa Gwilym yn holi ac yn trosglwyddo rhai o gwestiynau’r gwylwyr yn uniongyrchol i Bryn.

Bydd uchafbwyntiau’r cyfweliad hefyd i’w clywed ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos Fercher, Ebrill 12.

Daw’r newyddion am gymeriad newydd Bryn Fôn yn sgil y cyhoeddiad diweddar bod John Ogwen hefyd yn ymuno hefo Pobol y Cwm fel Josh nos Wener, Ebrill 7.

Nid oes cysylltiad penodol rhwng y ddau gymeriad, ond bydd cyfle i glywed mwy wrth i’r ddau actor ymddangos ar soffa rhaglen Heno ar S4C nos Fercher, Ebrill 5.

Pobol y Cwm

Llun-Gwener, 8pm, BBC Cymru ar S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg 

Llun-Gwener, 6pm, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrîn

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Rhannu |