Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Ebrill 2017

Aled a Rhinedd o Gwm Gwendraeth yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes

Aled Rees o Borthrhyd a Rhinedd Williams o Landdarog sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni - gwobr sy’n cael ei rhoi yn flynyddol am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Mae Rhinedd yn fam i dri o blant, yn wreiddiol o Sir Benfro ond bellach yn byw yn Llanddarog ac Aled yn dad i bedwar o blant ac yn byw ym Mhorthrhyd.

Penderfynodd y ddau sefydlu Adran Neuadd Fach yng Nghwm Gwendraeth 10 mlynedd yn ôl. 

Roeddent yn gweld fod angen adran yr Urdd i blant a phobl ifanc yn yr ardal, ac yn awyddus i gynnig profiadau bythgofiadwy iddynt trwy gyfrwng y Gymraeg.

Maent yn arwain adran ac uwch adran ar gyfer plant cynradd ac uwchradd yn wythnosol, yn hyfforddi plant yn flynyddol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, mynd ar deithiau i wersylloedd yr Urdd a chynnig digwyddiadau yn y gymuned megis cyngherddau ac wedi codi llawer o arian at achosion da.  

Cawsant wybod eu bod wedi ennill y wobr yn ystod Eisteddfod Rhanbarth Gorllewin Myrddin.

Roedd Heledd Cynwal yno gyda chriw teledu i roi gwybod i’r ddau eu bod wedi ennill.

Dywedodd Rhinedd: “Doedd gen i ddim syniad o gwbl ein bod wedi ennill, a dwi dal mewn sioc.

"Mi oeddem wedi ein galw i weld swyddogion yr Eisteddfod, dan yr argraff bod parti ymgom yr Adran wedi mynd dros amser.

"Ond yna mi dda’th Heledd Cynwal ‘o rywle’ a rhoi gwybod ein bod wedi ennill y tlws.

“Mae ennill y tlws hwn yn anrhydedd mawr a dwi dal heb ddod dros y sioc.

"Rydym wedi gweld pobl eraill yn cael y wobr gan feddwl ‘dyna braf’, ond erioed wedi dychmygu y byddem ni yn ei derbyn ac yn hynod falch fod ein gwaith yn cael ei werthfawrogi.

"Dydyn ni ddim yn ei wneud er mwyn cael diolch ond pan fydd gwobr fel hyn yn cael ei chynnig, mae’n golygu lot.”

Mae Beca yn 14 oed ac yn aelod o Uwch Adran Neuadd Fach.

Dywedodd: “Mae Rhinedd ac Aled wedi rhedeg yr adran am 10 mlynedd erbyn hyn ac wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi.

"Dwi wedi bod yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog, Caerdydd a Phentre Ifan ac yn gobeithio mynd i Lan-llyn eleni.

"Mae’r adran yn llawer o hwyl a dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd yno hefyd sydd fel teulu i mi.

"Rydym ni wastad yn cael cyfle i gystadlu yn yr Urdd ac wedi bod yn fuddugol amryw o weithiau erbyn hyn.

"Dwi mor falch fod Aled a Rhinedd wedi ennill y tlws yma oherwydd maen nhw yn rhoi o’u hamser i fod gyda ni yn yr adran a dwi’n credu mai dyma’r ffordd orau i longyfarch a diolch iddyn nhw.”

Mae Rhinedd ac Aled yn teimlo fod prinder gwirfoddolwyr sydd yn fodlon arwain adran neu aelwyd ac yn annog yr Urdd i gychwyn system mentora / hyfforddi i ddenu arweinwyr ifanc.

Yn ôl Aled: “Dwi’n credu fod angen i’r Urdd fynd ati i annog pobl ifanc a chyn-aelodau i gychwyn adrannau ac aelwydydd yn eu cymunedau gan roi cyfle iddynt unai ymweld gydag adrannau sydd wedi eu sefydlu ers blynyddoedd i gael sgwrs a rhannu arfer dda neu fod rhyw fath o gwrs hyfforddi penwythnos yn cael ei gynnal i roi arweiniad i griw newydd.

"Y peryg fel arall yw ein bod yn methu talent allai gynnal adrannau ac aelwydydd bywiog.

“Yn ein hardal ni, un peth sydd wedi llonni fy nghalon yw sut mae y to hŷn nawr wedi dechrau cynorthwyo yn yr adran.

"Er enghraifft mae dwy o’n aelodau eleni yn cyfeilio ar gyfer y dawnswyr gwerin bach, ac mae hynny yn rhoi gymaint o falchder i mi a gweld y rhai bach yn perfformio ar y llwyfan.”

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.

Rhannu |