Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mawrth 2017

Cyn ohebydd sydd bellach yn aelod seneddol yn galw am ymchwiliad i ddyfodol y wasg yng Nghymru

Mae cyn newyddiadurwraig sydd bellach yn Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd wedi galw am ymchwiliad i ddyfodol y wasg ysgrifenedig, yng nghanol pryderon fod toriadau a phapurau newydd yn cau yn bygwth traddodiad Cymru o wasg ddwyieithog cryf.

Gwnaed yr awlad gan Liz Saville Roberts, a arferai fod yn ohebydd gyda’r Caernarfon and Denbigh Herald, yn ystod dadl Neuadd Westminster ar ddyfodol papurau lleol.

Mae’r Aelod Seneddol hefyd yn noddi Cynnig trawsbleidiol yn y Senedd (EDM1109) sy’n galw ar gyrff datganoledig y Llywodraeth i gefnogi darpariaeth newyddion lleol a rhanbarthol.

Daw ymyriad Mrs Saville Roberts wrth iddi ddod i’r amlwg fod Tindle Newspaprers Ltd, perchnogion Y Cymro i roi’r gorau i gyhoeddi’r papur.

Os nad oes neb yn datgan diddordeb cymryd y papur drosodd yna bydd yn dod i ben fis Mehefin.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Fel cyn ohebydd newyddion papur lleol, rwyf yn bryderus iawn am y sefyllfa anffodus y mae papurau newydd lleol yn eu hwynebu. Mae dyfodol ansicr darparwyr newyddion lleol o bryder arbennig yma yng Nghymru.

“Mae Cymru wedi gweld papurau newydd lleol yn cael eu prynu gan gwmnïau rhyngwladol mawr sydd wedi eu lleoli yn Llundain a'r Unol Daleithiau gan ddistewi lleisiau unigryw cyhoeddiadau lleol Cymru.

“Mae toriadau wedi dod yn strategaeth fusnes diofyn i oroesi yng nghanol gostyngiad mewn refeniw a gwerthiant.

"Mae ystafelloedd newyddion o dan bwysau cynyddol gyda gohebwyr yn gweithio oriau hirach o dan fwy o bwysau i gadw cyhoeddiadau yn fyw.

“Mae’r Daily Post, er ei fod y papur newydd rhanbarthol gorau o ran gwerthiant yng Nghymru, yn gorfod dygymod â’r broblem barhaol o niferoedd staff yn prinhau o ganlyniad i amodau busnes llym.

“Rwy'n siŵr nad yw’r sefyllfa hon yn unigryw i’r Daily Post.

"Mae Cymru mewn perygl o fod yn wlad lle mae’r llywodraeth a chynghorau yn gweithredu yn ddirwystr. Nid yw hon yn Gymru ddemocrataidd.

“Mae gwleidyddiaeth yn cael ei gryfhau gan oleuni craffu. Rwyf yn cydnabod gwerth democrataidd papurau newydd rhanbarthol i ddwyn ein gwleidyddion a chynghorau lleol i gyfrif.

“Papurau newydd lleol yw llais ein cymunedau. Hebddynt, mae ein hetholwyr yn cael eu hamddifadu o fforwm hanfodol ar gyfer trafod materion lleol pwysig. Rhaid i ni beidio â gadael iddynt gael eu distewi.

“Mae'n hanfodol fod gan Gymru ohebwyr sy'n gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg ac sy’n cael eu dwyn i gyfrif gan yr union gymunedau a phobl y maent yn eu gwasanaethu.

“Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad i ddyfodol y cyfryngau print yng Nghymru, er mwyn asesu lefelau presennol o ddosbarthu a chyflwr cyhoeddiadau cyfredol.

“Ni allwn adael i’n cyhoeddiadau gau i lawr gan wneud dim am y gwagle difrifol a adewir ar ôl yn ein cymunedau.”

 

Rhannu |