Mwy o Newyddion
Diogelwch ar-lein yn flaenoriaeth allweddol o hyd wrth i fwy a mwy ddefnyddio’r rhyngrwyd
Mae 95% o blant rhwng 7 a 15 oed yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd gartref yn ôl adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi yr wythnos yma.
Mae Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi y bydd diogelwch ar-lein yn dal i fod yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru gyda rhaglen eang i wella arferion diogelwch ar-lein mewn ysgolion dros y ddwy flynedd nesaf.
Nod y rhaglen fydd parhau i roi cefnogaeth i bobl ifanc fod yn ddiogel ar-lein.
Yn ôl ffigurau gan Arolwg Cenedlaethol Cymru:
- Mae 95% o blant rhwng 7 a 15 yn defnyddio’r rhyngrwyd gartref.
- Y ddyfais fwyaf cyffredin a gâi ei defnyddio gan y plant hyn oedd llechen neu ddyfais debyg (71%).
- Roedd 64% o blant rhwng 7 a 15 a oedd wedi defnyddio’r rhyngrwyd y tu allan i’r ysgol wedi defnyddio platfform dysgu gan yr ysgol ac roedd 67% wedi defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth oedd yn gysylltiedig â’u gwaith ysgol.
- Roedd 87% o rieni yn teimlo y gwyddai eu plentyn sut i fod yn ddiogel ar-lein wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.
- Roedd 56% o gartrefi â phlant rhwng 7 a 15 oed yn defnyddio hidlyddion rheolaeth gan rieni.
- O ddadansoddi ymhellach, roedd rhieni yn fwy tebygol o ddefnyddio hidlyddion rheolaeth gan rieni os oeddent wedi’u haddysgu i lefel yn uwch, os oeddent yn defnyddio’r rhyngrwyd eu hunain, os oedd ganddynt fwy nag un plentyn ac os oedd eu plentyn yn iau.
Yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau arferion diogelwch ar-lein mewn ysgolion drwy’r canlynol:
- Cynnal 63 o ddiwrnodau hyfforddiant diogelwch ar-lein ar draws y 22 awdurdod lleol a hyfforddi tua 2,300 o weithwyr proffesiynol ym maes addysg.
- Sicrhau cynnydd yn nifer y rhai sy’n defnyddio pecyn 360 degree Safe Cymru o 196 o ysgolion (19% o ysgolion yng Nghymru) yn 2014 i 1,375 (85% o ysgolion yng Nghymru).
- Cynhyrchu Adnoddau Diogelwch Ar-lein i Gymru.
- Cyfres o adnoddau i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr ac ymarferwyr ym maes addysg ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein megis Seibrfwlio, Ymddiriedaeth Ar-lein a Chyfryngau Cymdeithasol.
Y mis diwethaf, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Barth Diogelwch Ar-lein ar Hwb, y platfform dysgu digidol i ysgolion yng Nghymru.
Mae llawer o ddeunyddiau dwyieithog ar ddiogelwch ar-lein ar gael ar y Parth Diogelwch Ar-lein i bobl ifanc, athrawon, rhieni a llywodraethwyr.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi Operation Netsafe, sef ymgyrch ar lefel Cymru Gyfan sy’n cael ei harwain gan Heddlu De Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Lucy Faithful. Nod yr ymgyrch yw atal creu, gwylio a rhannu delweddau anweddus o blant ar-lein.
Dywedodd Kirsty Williams: “Mae pob un ohonon ni bellach yn treulio mwy a mwy o amser ar-lein.
"Yn ogystal â’r manteision niferus sydd i’r rhyngrwyd mae yna risg go iawn hefyd a dyna pam rydyn ni’n cymryd camau i ddiogelu ein plant a’n pobl ifanc ac yn eu paratoi i fod yn ddinasyddion digidol diogel a chyfrifol.
“Byddwn yn dal ati i weithio ar yr hyn rydyn ni eisoes wedi’i gyflawni hyd yma ac yn hyrwyddo gwelliannau mewn arferion diogelwch ar-lein drwy gyflwyno rhaglen gynhwysfawr o addysg ac ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch ar-lein ledled Cymru.
"Drwy’r rhaglen bydd adnoddau a deunyddiau ar gyfer yr ystafell ddosbarth ar gael i ysgolion er mwyn helpu dysgwyr i feddwl yn feirniadol, meddwl yn ddiogel a bod yn gyfrifol ar-lein.”