Mwy o Newyddion
Leanne Wood yn datgelu gofynion amgen i lythyr Erthygl 50
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cyhoeddi gofynion amgen ei phlaid i lythyr Erthygl 50, sydd yn amlinellu sut y dylai amddiffyn a hyrwyddo buddiannau economaidd pob un o bedwar aelod y DG fod yn brif flaenoriaeth i Theresa May.
Daw galwadau amgen Ms Wood cyn bwriad Prif Weinidog y DG i ysgrifennu at Gyngor Ewrop yfory, yn eu hysbysu o’i bwriad i dynnu holl aelodau’r DG o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi amlinellu pump o alwadau allweddol ddylid, yn ei barn hi, gael eu cynnwys yn llythyr Theresa May, gan gynnwys parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau; gwarant o hawliau dinasyddiaeth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru a dinasyddion Cymru yn yr UE; parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni cyllido Ewropeaidd gan gynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth y DG i warantu lefelau presennol o daliadau cynnal amaethyddiaeth y tu hwnt i 2020; ymrwymiad i drosglwyddo pecyn o gyfrifoldebau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, heb dynnu unrhyw bwerau yn ôl; ac ymrwymiad i ymofyn am gytundeb pob weinyddiaeth ddatganoledig ar y ddêl orffenedig.
Meddai: “Ers y bleidlais yng Nghymru i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu budd cenedlaethol Cymru. Mae hyn wedi golygu yn bennaf amddiffyn a hyrwyddo ein buddiannau economaidd - swyddi a chysylltiadau masnach hanfodol, nawr ac yn y dyfodol.
“Does dim rhaid i Brexit fod mor anghyfrifol, niweidiol na diofal ag y bwriada San Steffan iddo fod. Mae’n bosib dilyn Brexit synhwyrol, gan ddilyn ôl traed Norwy, er enghraifft, nad yw’n aelod o’r UE ond sydd yn cymryd rhan yn y Farchnad Sengl.
“Rhaid i Brif Weinidog y DG gofio mai ei gwaith yw cynrychioli holl genhedloedd y DG, nid dim ond ei chenedl ei hun.
"Mae ganddi ddyletswydd i ystyried anghenion unigryw Cymru yn ogystal â’r tri aelod arall o’r DG , fel y gall y sawl sy’n byw yma fod yn dawel eu meddwl na fydd eu cyflogau’n cael eu torri, fod cost byw yn sefydlog ac y bydd gobeithion eu plant am swyddi yn ddiogel.
“Mae ein galwadau amgen Erthygl 50 yn adlewyrchu nid yn unig yr hyn sy’n bwysig i Gymru a phawb sy’n byw yma, ond yr addewidion a wnaed i bleidleiswyr gan yr ymgyrch Pleidlais i Adael.
"Maent yn cynnig rhestr i Brif Weinidog y DG o ddewisiadau synhwyrol a chymedrol nad ydynt yn mynd yn groes i’r mandad i adael yr UE ond sy’n amddiffyn ein cysylltiadau economaidd hanfodol â’r cyfandir ac sy’n adlewyrchu buddiannau Cymru a phawb sy’n byw yma.
“Bydd y llythyr y bydd Theresa May yn anfon yfory yn fan cychwyn i ddwy flynedd o drafodaethau.
"Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y man cychwyn hwnnw mor gryf ag sydd modd, a’n bod yn cychwyn ar lwybr synhwyrol, nid llwybr a yrrwyd gan ideoleg a thactegau etholiadol.
“Dywedwyd wrthym sawl gwaith fod y Deyrnas Gyfunol yn bartneriaeth o genhedloedd cyfartal.
"Bydd llythyr Erthygl 50 yn rhoi prawf ar ymrwymiad y Prif Weinidog i’r honiad hwnnw ac i fuddiannau economaidd Cymru – wnaiff hi sefyll drostynt neu wnaiff hi gerdded ymaith?"