Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2017

Gwaith adeiladu 2 sgrin sinema newydd Galeri i ddechrau wythnos nesaf

Bydd prosiect cyfalaf gwerth bron i £4m yng nghanolfan Galeri, Caernarfon yn cychwyn wythnos nesaf.

Mae’r datblygiad yn golygu mai yng Nghaernarfon fydd unig ddarpariaeth sinema aml-sgrin llawn amser yng Ngwynedd a Môn.

Bydd y rhaglen sinema newydd yn cynnwys dangos y ffilmiau diweddaraf ar ddyddiad rhyddhau gan hefyd ryddhau’r prif theatr 394 sedd ar gyfer datblygu’r rhaglen ddigwyddiadau byw a’r busnes llogi/cynadleddau.

Pensaer gwobrwyedig adeilad gwreiddiol Galeri, Richard Murphy sydd yn gyfrifol am y dyluniad a’r cwmni adeiladu o Lysfaen, RL Davies fydd yn adeiladu’r estyniad newydd.

Mae’r prosiect wedi derbyn arian cyfalaf o goffrau Cyngor Celfyddydau Cymru (arian Loteri Cenedlaethol), Llywodraeth Cymru (cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid) a Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop er mwyn sicrhau bod y prosiect yma yn cael ei wireddu.

Yn ôl Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri: “Mae’n newyddion gret ein bod bellach mewn sefyllfa i allu dechrau ar y gwaith.

"Mae hi wedi bod yn broses hir, 6 mlynedd o weithio ar y cynllun a’r pecyn ariannu – ond ar ddiwedd y dydd, mae’r prosiect yn digwydd ac mi fydd yn adnodd pwysig ac angenrhaid i Gaernarfon a’r ardal gyfagos.

“Bydd rhaglen ddigwyddiadau Galeri yn parhau yn ystod y cyfnod adeiladu, a byddwn yn ceisio sicrhau na fydd y gwaith adeiladu yn effeithio yn ormodol ar ein gweithrediadau.

"Mi fydd yn rhaid creu mynedfa newydd dros-dro tan i’r adeilad newydd agor cyn Haf 2018."

Dyma ddatblygiad diweddaraf y fenter gymdeithasol Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon gynt) ac mae dechrau’r gwaith adeiladu hefyd yn cyd-fynd gyda pen-blwydd y cwmni yn 25 oed.

Sefydlwyd y cwmni yn 1992, gyda’r bwriad o wella tref Caernarfon gan ymgymryd â’r dasg o drawsnewid ac ailwampio rhai o adeiladau gwag, bler mwyaf y dref.

Hyd yma, mae’r Ymddiriedolaeth wedi adnewyddu dros ugain o adeiladau gwag wedi eu hesgeuluso yn y dref, sydd yn awr gyda thenantiaid.

Am wybodaeth bellach ar raglan ddigwyddiadau Galeri ac am y diweddaraf am ddatblygiad y sinema newydd, ewch i http://galericaernarfon.com neu dilynwch ar Facebook, Twitter ac Instagram.

 

Rhannu |