Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2017

Prif Weinidog Carwyn Jones yn cefnogi Apêl Dwyrain Affrica DEC Cymru

Mae Prif Weinidog Carwyn Jones wedi annog pobl yng Nghymru i gefnogi Apêl Dwyrain Affrica DEC Cymru (Pwyllgor Argyfyngau Brys), sydd yn gweithredu i helpu miliynau o bobl sy’n wynebu newyn ar draws y rhanbarth.

Mae sychder a gwrthdaro wedi achosi i 16 miliwn o bobl ddod yn agos at lwgu, ac mae pobl yn marw yn barod yn Ne Swdan a Somalia, tra bod Kenya wedi datgan cyflwr cenedlaethol o argyfwng, ac mae Ethiopia yn profi sychder gwaethaf ers degawdau, gydag achosion o golera yn gwaethygu’r sefyllfa.

Er fod cymorth yn cyrraedd y gwledydd hyn, mae llawer mwy angen ei wneud i arbed bywydau ag atal trychineb yn y dyfodol.

Wrth siarad o blaid yr apêl, dywedodd Carwyn Jones: “Mae’r sefyllfa yn Nwyrain Affrica yn drychineb dyngarol difrifol ac mi rydym ni angen ymateb nawr  achub bywydau miliynau sydd yn dioddef o lwgu ac, yn Ne Swdan, newyn.

"Mae llawer o arian wedi cael ei godi yn barod, ac rydw i’n annog i bobl Cymru i helpu i wneud gwahaniaeth. Gall dim ond £25 ddarparu gwerth mis o bast cnau-mwnci i blentyn sy’n dioddef o ddiffyg maeth. Felly, plîs, peidiwch ag oedi a chyfrannwch."

Dywedodd Kirsty Davies-Warner, Cadeirydd DEC Cymru: “Nawr yw’r amser i achub bywydau yn Nwyrain Affrica cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

"Merched, plant a’r henoed sydd yn wynebu’r risg mwyaf o newyn – ac mae mwy na 800,000 o blant o dan bump oed yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol.

“Mae yna gysylltiad cryf rhwng Cymru a dwyrain Affrica, ac mae gan Gymru'r gymuned Somali hynaf yn y DU, sydd wedi rhoi cyfraniad pwysig i fywyd Cymreig.

“Mae elusennau o fewn DEC Cymru yn darparu cymorth sy’n achub bywydau yn barod yn y gwledydd sydd yn cael eu heffeithio, ond mae angen mwy o gymorth ariannol ar frys i leihau graddfa a difrifoldeb yr argyfwng – ac i achub bywydau.”

I roi cyfraniad i Apêl Dwyrain Affrica DEC Cymru, ewch i http://www.dec.org.uk neu ffoniwch 0370 60 60 610. Gallwch hefyd gyfrannu £5 trwy dectsio y gair HELPU i 70000.

Rhannu |