Mwy o Newyddion
Data yn dangos bod nifer sylweddol o leoedd dros ben yng ngharchardai Cymru
Mae data newydd a ryddhawyd ddoe (22 Mawrth) gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos y bydd agor ‘arch-garchar’ newydd ym Mhort Talbot yn arwain at leoedd dros ben mewn carchardai yng Nghymru.
Mae’r data newydd a gyhoeddwyd yn dilyn y cyhoeddiad fod cynllun ar y gweill i adeiladu carchar categori C ym Mhort Talbot ar gyfer hyd at 1,600 o garcharorion.
Yn ôl y dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a gymharodd y defnydd a wneir o garchardai yng Nghymru ar hyn o bryd yn erbyn cyfanswm y carcharorion o Gymru sydd yn ein carchardai, bydd gan Gymru bron i 2,400 o leoedd (2,387) dros ben ar ôl agor y carchar newydd.
Hyd yn oed pe byddai Carchar Caerdydd yn cau o ganlyniad i’r cyhoeddiad yma gan Lywodraeth Prydain, mae’r data’n dangos y byddai 1,600 o leoedd dros ben o hyd yn seiliedig ar faint o ddefnydd a wneir o garchardai yng Nghymru ar hyn o bryd yn erbyn nifer y carcharorion o Gymru sydd yn y system.
Mae’r data yn dilyn sylwadau gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i dorcyfraith ymhlith pobl ifanc ieuenctid, lle nodwyd “ni ddylem fod yn carcharu ein pobl ifanc; dylem fod yn eu cefnogi ymlaen llaw.”
Gwnaed y sylwadau yma mewn ymateb i gwestiwn i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn Rhagfyr 2016.
Dywedodd Dr Robert Jones, ymchwilydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r data a gyflwynir yn dangos yn glir fod penderfyniad Llywodraeth y DG i agor ‘arch-garchar’ ym Mhort Talbot yn golygu y bydd nifer sylweddol o leoedd dros ben mewn carchardai yng Nghymru ac y bydd Cymru yn mewnforio nifer sylweddol o garcharorion.
“Hyd yn oed pe ystyrir cau Carchar Caerdydd, byddai tua 1,600 o leoedd dros ben o hyd.
"Felly, rhaid gofyn y cwestiwn, oes angen adeiladu arch-garchar arall yng Nghymru?
“Cyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer yr ‘arch-garchar’ ym Mhort Talbot, rhaid cael trafodaeth lawn a chyhoeddus i ystyried effaith adeiladu carchar mor fawr.
"Yn rhan o drafodaeth o’r fath, byddai angen ystyried effaith ‘arch-garchar’ arall yng Nghymru ar wasanaethau datganoledig megis iechyd ac addysg carcharorion, ynghyd a chefnogaeth camddefnyddio sylweddau a thai.
“Ar adeg pan mae trafodaethau’n cael eu cynnal ynghylch datganoli pwerau dros gyfiawnder troseddol i Gymru, bydd angen i wleidyddion ystyried effaith ‘arch’ garchar newydd ar yr agenda yma yn y dyfofol.”