Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2017

Galw am neilltuo cyllid cyfalaf i ehangu Addysg Gymraeg

MAE Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio rhaglen cyllid cyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif, i gynnwys maen prawf penodol sy’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg.

Daw hyn wrth i RhAG lythyru siroedd Merthyr, Wrecsam, Fflint, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent, sydd wedi gwario bron dim ar ysgolion Cymraeg ers sefydlu’r rhaglen yn 2011.

Mae RhAG eisoes wedi mynegi pryder am ddiffyg prosiectau o fewn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy’n ymwneud ag addysg Gymraeg.

Mae hynny’n peri gofid gwirioneddol, gan na fydd cyfnod ariannu cyntaf y rhaglen yn dod i ben tan 2019.

Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG: “Mae’n anorfod bod angen cyllid ychwanegol sylweddol i ehangu Addysg Gymraeg ond nid oes unrhyw gyllid ychwanegol wedi’i glustnodi i gefnogi tyfu'r sector.

"Nid yw blaenoriaethau y rhaglen bresennol o unrhyw gymorth i Addysg Gymraeg ac mae’n rhaid ymateb i hynny ar fyrder.

“Os mai bwriad y Llywodraeth yw cyrraedd miliwn o siaradwyr, yna rhaid gofyn o ddifrif; sut mae cyflawni hynny heb yr adnoddau angenrheidiol?

"Mae angen eglurder o ran blaenoriaethau’r cyfnod ariannu nesaf er mwyn dod â llywodraeth ganol a lleol yn nes at ei gilydd trwy’r rhaglen gyfalaf.

“Yn sgil cyhoeddiad diweddar y Gweinidog y cynhelir adolygiad annibynnol o’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, credwn hefyd bod angen adolygu’r rhaglen cyllid cyfalaf, er mwyn sicrhau bod amcanion y rhaglen honno yn cyd-fynd â pholisi’r Llywodraeth mewn perthynas ag addysg Gymraeg.

"Dim ond trwy gynnwys maen prawf penodol i gynyddu addysg Gymraeg yn ystod cyfnod ariannu nesaf y rhaglen y gellir sicrhau hynny.”

Llun: Lynne Davies
 

Rhannu |