Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2017

Cyfle i gofio a diolch am gyfraniad Sioned James

Bydd S4C yn talu teyrnged i'r diweddar Sioned James nos Wener, 7 Ebrill mewn rhaglen arbennig Cofio Sioned James.

Bydd y rhaglen yn diolch am gyfraniad arloesol sylfaenydd Côrdydd i gerddoriaeth a diwylliant Cymru, arweinydd corawl a cherddor fu farw mor anamserol o ifanc yn 41 oed y llynedd.

Yn ystod y rhaglen cawn glywed gan ei ffrindiau a'i chyfoedion gan ddod i adnabod Sioned - y ferch ddireidus oedd yn cuddio tu ôl i'r arweinydd côr disgybledig.

Un fu'n talu teyrnged i Sioned yw Islwyn Evans, Arweinydd Ysgol Gerdd Ceredigion.

Bu Sioned yn ddisgybl i Islwyn yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul ac roedd gan Sioned feddwl y byd o ddawn arwain Islwyn. Daeth y ddau'n gyfeillion agos wedi iddi hi adael yr ysgol.

"Roedd Sioned yn un o'r rhain dim ond un gêr oedd ganddi hi… Roedd hi'n byw bywyd hyd yr eithaf!" meddai Islwyn.

"Dwi'n gweld ei heisiau hi'n ofnadwy fel ffrind.

"Dwi mor falch 'mod i wedi dod ar ei thraws hi.

"Dwi'n ei chofio hi fel disgybl ym mlwyddyn 8. Roedd e'n gyfnod eitha' cyffrous i ni ar ran canu yn Llandysul y cyfnod 'ny.

"Os dwi'n cofio'n iawn, roedd 'da fi bum côr ysgol ar y pryd, a byddai hi wedi bod ym mhob un côr ar wahân i'r un bois; a fyddai hi ddim ymhell o fan 'ny chwaith, yn llygadu ambell un ohonyn nhw!"

Bydd ei chyn-brifathro yn Ysgol Gynradd Llandysul, Tom Evans, hefyd yn cofio Sioned.

"Beth oedd yn ddiddorol amdani hi, fel croten fach yn yr ysgol, oedd ei bod hi'n un fach ac yn dwt.

"Ond roedd cymeriad mor gryf 'da hi, mewn rhywbeth mor fach ag yr oedd hi. Ond roedd 'na gadernid yn Sioned, roedd 'na ddur ynddi hi hefyd.

"Ac fe safai lan i unrhyw beth roedd hi'n credu ynddo fe, yn fach ac yn ifanc iawn."

Un o ffrindiau pennaf Sioned oedd Heledd Cynwal, ac mae gan y cyflwynydd teledu a radio atgofion melys o'i ffrind.

"Roedd y ddwy ohonon ni'n gefn i'n gilydd.

"Allwn i ddim wedi dymuno cael gwell ffrind.

"Roedd hi'n berson oedd yn teimlo pethau i'r byw. Roedd hi yna fel craig i lot o bobl.

"Y tro cynta' i mi gwrdd â hi'n iawn oedd pan es i ganolfan yr Urdd, Glan Llyn yn nosbarth 1.

"Dwi'n cofio gweld y ferch 'ma oedd yn dal ac yn fain iawn ac roedd doji perm 'da hi a brês.

"Ac mewn ffordd roedd e fel edrych yn y drych achos fel 'na'n union ro'n i'n edrych hefyd.

"Felly dwi'n meddwl mai rhywbeth fel 'na ddaeth â ni at ein gilydd, roedd 'da ni'r un problemau wrth dyfu lan!

"Roedd 'na ryw sbarc yn perthyn iddi hi, ac ro'n i eisiau bod yn rhan o hwnna, achos ro'n i wastad yn chwilio am bach o ddrygioni fy hunan, ac roedd hi'n un oedd yn cynnig hynny.

"Ac yn ystod yr wythnos yna yng Nglan Llyn datblygodd ein perthynas ni, ac o hynny 'mlaen buon ni'n ffrindiau gorau."

Huw Foulkes yw Arweinydd Côrdydd nawr, ac mae ei ddiolch yn enfawr i Sioned.

"Mae'n hynod bwysig bod y rhaglen yma'n cael ei chreu er mwyn rhoi cofnod, nid yn unig o'i bywyd cerddorol hi, ond hefyd o'i phersonoliaeth a'i dylanwad anhygoel.

"Dwi'n herio unrhyw un i feddwl am arweinydd corawl arall yng Nghymru sydd wedi llwyddo i greu cymaint o gysylltiadau rhyngwladol ac i drawsnewid canu corawl gymaint.

"Rhan fach o'r cofio fydd y rhaglen yma ond mae'n rhan allweddol, bwysig er mwyn i'r rheiny na ddaeth ar ei thraws sylweddoli mawredd ei chyfraniad tuag at y byd cerddorol yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae'r byd hwnnw yn dlotach le hebddi."

Cofio Sioned James. Nos Wener, 7 Ebrill 9.30, S4C. Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C.

Rhannu |