Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mawrth 2017

‘Anfonwch neges at San Steffan a Bae Caerdydd – Pleidleisiwch dros Blaid Cymru’ medd Leanne Wood

Mae disgwyl i Leanne Wood ddweud fod pleidlais i Blaid Cymru yn yr etholiadau lleol yn “bleidlais dros eich cymuned.”

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn gwneud y sylwadau yn ystod lansio ymgyrch etholiadau lleol ei phlaid yng ngwesty’r Heritage Park yn y Rhondda.

Mewn araith gerbron cynulliad o ymgyrchwyr a chefnogwyr ei phlaid, disgwylir i AC y Rhondda hefyd ddweud mai dim ond Plaid Cymru allai dorri drwy’r canfyddiad poblogaidd fod yr holl bleidiau gwleidyddol yr un fath.

Bydd hefyd yn tynnu sylw at y cynghorau dan reolaeth Plaid Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth mewn mannau fel Ceredigion, Conwy, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd dros y pum mlynedd diwethaf.

“Heddiw rwyf eisiau chwalu un o’r chwedlau am wleidyddiaeth Cymru,” bydd Ms Wood yn dweud.

“Mae rhai pobl yn dweud – ‘Rydych chi i gyd yr un fath.

“Oherwydd bod Cymru wedi ei gadael i lawer gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, mae pobl mewn llawer rhan o’r wlad yn colli gobaith.

"Ond dyw gwleidyddion ddim i gyd yr un fath. Nid yw Plaid Cymru yr un fath. Plaid Cymru yw eich plaid leol. Ar ochr y bobl yr ydym ni, nid yr elite gwleidyddol a biwrocrataidd.

“Mae pedwar cyngor lleol dan arweiniad Plaid Cymru. Yn y cynghorau hynny, mae cyflogau uwch-swyddogion ar gyfartaledd 22% yn is nac yn y cynghorau a arweinir gan y blaid Lafur.

“Mae’r gwahaniaeth hwn yn gyfystyr â channoedd o filoedd o bunnoedd mae Plaid Cymru yn ei roi’n ôl i gymunedau ac yn ôl i wasanaethau lleol.

"Yma yn y Rhondda, cynghorwyr Plaid Cymru sy’n cyfrannu rhan o’u lwfansau i elusennau ac achosion da lleol.

“Ac fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru, fi yw’r unig arweinydd plaid sydd wedi defnyddio rhan o’m cyflog personol i gyflogi prentis lleol.

“Felly na, tydyn ni ddim i gyd yr un fath. Mae Plaid Cymru yn blaid y bobl nid mewnm geiriau yn unigh, ond mewn gweithredoedd.”

Mae disgwyl iddi ychwanegu: “Nid plaid protest mohonom, ond plaid sy’n ymboeni am gymunedau Cymru a’u gwneud yn fwy llwyddiannus.

“A lle cawn ni ein hethol ar Fai 4, fe fyddwn yn gweithio i gryfhau ein cymunedau. I sicrhau swyddi lleol a chreu prentisiaethau. I lanhau’r amgylchedd yn lleol. I godi tai i bobl leol ac amddiffyn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.

"Ac i atal cyflogau uwch-swyddogion rhag mynd allan o reolaeth.

“Mae’r etholiad hwn ar Fai 4 yn fater o anfon neges. Mae’n gyfle i roi gwybod i Lafur ym Mae Caerdydd a’r Torïaid yn San Steffan wybod na fyddwch bellach yn sefyll ar y cyrion wrth i’ch cymunedau gael eu hanwybyddu a’ch gwasanaethau lleol gael eu hisraddio neu eu gwerthu.

“Gallwch ddibynnu ar Blaid Cymru i ymladd ar ran eich ardal leol yn erbyn yr un pleidiau sydd wedi ein siomi dro ar ôl tro. Peidiwch â gwobrwyo methiant y pleidiau eraill.

“Byddwch yn gadarnhaol dros eich cymuned trwy gefnogi Plaid Cymru. Mae pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais i’ch cymuned, ac yn bleidlais i’ch cenedl.”

Rhannu |