Mwy o Newyddion
Galw am chwarae teg i amaethwyr Cymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae Plaid Cymru wedi galw ar i fuddiannau Amaethyddiaeth yng Nghymru gael ei gwarantu mewn unrhyw gytundebau masnach gan Lywodraeth San Steffan yn y dyfodol, gyda chytundeb gan holl genhedloedd y DU ar unrhyw fframwaith amaethyddol i’r DU.
Yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd newidiadau sylweddol i amaethyddiaeth, cyllid materion gwledig a mesurau diogelu ar draws y DU yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Gallai hyn gynnwys newidiadau i fframweithiau rheoleiddio, polisïau ac o bosibl disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.
Wrth ysgrifennu erthygl yn ymateb i ganfyddiadau ymgynghoriad gan Blaid Cymru gyda'r gymuned wledig yn ystod yr haf diwethaf am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Amaethyddiaeth, nododd Simon Thomas, Ysgrifennydd Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cabinet Cysgodol Plaid Cymru: “Mae arnom angen fframwaith reoleiddio a’r polisïau iawn i leihau gymaint ag sydd modd y niwed a achosir i’r sector yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeiadd.
"Mae’n amlwg y gall Cymru gystadlu ar ansawdd ei bwyd a’i diod, ond na all gystadlu o ran pris.
"Y mae yn wir yn fater o bryder y bydd cytundebau masnach Llywodraeth San Steffan yn arwain at osod tariffau ar allforion bwyd a diod Cymru a mewnforion rhad yn llifo i farchnad y DG.
“Barn Plaid Cymru yw y byddai buddiannau sector amaeth Cymru ar eu hennill orau trwy barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl, a bod yn rhaid osgoi rhwystrau tariff.”
Wrth sôn am fframwaith amaethyddol posibl i’r DU yn y dyfodol, meddai Simon Thomas: “Wedi gadael yr UE, mae arnom angen fframwaith i’r DG y mae’r pedair cenedl yn cytuno arno yn gyfartal, gyda chymaint o ryddid ag sydd modd i wahanol agweddau.
"Mae tirwedd, daearyddiaeth, hinsawdd, diwylliant a iaith Cymru yn wahanol iawn i rannau eraill y DU a dyna pam fod angen ymrwymiad tuag at fframwaith pedair cenedl.
“Mae ar Lywodraeth San Steffan i’r sector amaethyddol yr un lefel o gyllid wedi gadael yr UE ag a geir ar hyn o bryd dan y Polisi Amaeth Cyffredin. Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ymrwymo i ddefnyddio’r cyllid hwn i gynnal amaethyddiaeth a’r economi wledig.”
Ychwanegodd: “Carai Plaid Cymru weld cryfhau’r cysylltiadau rhwng ffermio, yr economi wledig ehangach a’n cymunedau.
"Mae gwell seilwaith, gwasanaethau a chyfleoedd ar hyd yr ardaloedd gwledig a chynnal y sector amaethyddol oll wedi eu cysylltu.”
Llun: Simon Thomas