Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mawrth 2017

Gwion Llwyd yw llywydd newydd UMCA

Gwion Llwyd yw llywydd newydd UMCA ar ôl cyfnod etholiadau dros yr wythnos diwethaf.

Gwion fydd llywydd UMCA rhif 45 ac mi fydd yn dechrau ei swydd ar ôl gorffen ei gwrs yn astudio Hanes Cymru.

Yn wreiddiol o Benygroes, Dyffryn Nantlle, mae Gwion wedi bod yn rhan bwysig o weithgaredd UMCA trwy fod yn aelod o bwyllgor UMCA fel swyddog RAG.

Yn ychwanegol a hyn Gwion yw Is-gapten Clwb pêl-droed Y Geltaidd eleni.

Meddai: “Dwi’n falch o allu cael y cyfle i sicrhau dyfodol disglair i UMCA fel canolbwynt i’r gymuned Cymraeg i fyfyrwyr Aberystwyth."

Un o bwyntiau pennaf Gwion yn ei maniffesto oedd parhau ar ymgyrch i adnewyddu Pantycelyn erbyn Medi 2019.

Dwedodd: “Dwi’n edrych ymlaen at barhau â'r frwydr ail-agor Pantycelyn fel llety myfyrwyr cyfrwng Cymraeg gan gadw rhoi pwysau ar y Brifysgol i gadw at amserlen o adnewyddu adeilad eiconig."

Mae llywydd UMCA, Rhun Dafydd yn gyffrous i gyd-weithio gyda Gwion yn y cyfnod trosglwyddo.

Eglurodd: “Dwi’n edrych ymlaen at baratoi Gwion i’r flwyddyn sydd o’i flaen.

"Mae Gwion yn unigolyn brwdfrydig ac yn llawn hyder ei fydd yn ei gwneud y gorau dros fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.”

“Mae’r flwyddyn nesaf yn hynod o bwysig o ran Ymgyrch ail Agor Pantycelyn ac mi fydd angen i Gwion sicrhau fod y Brifysgol yn cadw at ei gair a pheidio troi addewid ar y mater.”

Llun: Gwion Llwyd

Rhannu |