Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mawrth 2017

Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cymeradwyaeth gan Leanne Wood a Rhun ap Iorwerth

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood a’r Gweinidog Iechyd cysgodol Rhun ap Iorwerth wedi ymweld ag Ambiwlans Awyr Cymru i weld drostynt eu hunain y gwaith maent yn wneud.

Cafodd y ddau eu tywys o gwmpas gan brif weithredwr yr elusen, Angela Hughes, i weld y cyfleuster newydd sbon y buont yn ei redeg o Borth Llanelli ers iddynt symud yno yn 2016.

Yn ystod yr ymweliad, cawsant arddangosiad o sut y mae gweithwyr yr ambiwlans awyr yn ymateb mewn argyfyngau, ac fe aethant i fyny i’r awyr i weld drostynt eu hunain pa mor fuan y gall yr hofrenyddion ymateb.

Fe wnaethant gyfarfod hefyd â’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gofalu y gall yr elusen gynnal y gwasanaeth mae’n ddarparu i’r wlad. Mae angen i’r elusen godi £6.5 miliwn y flwyddyn i redeg o ddydd i ddydd.

Meddai Leanne Wood AC: “Roedd yn bleser cyfarfod tîm Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a gweld yn union pa fath o waith maent yn wneud.

"Maent yn un o wir storiâu llwyddiant Cymru, ac yn rhywbeth y dylem ni ymfalchïo ynddo.

"Maent wedi hedfan dros 25,000 taith yn eu 16 mlynedd o fodolaeth.

"Yn y cyfnod hwnnw, maent wedi arbed bywydau di-rif ac wedi gwella amseroedd ymadfer ac ansawdd bywyd cleifion trwy roi gofal meddygol arbenigol iddynt yn gynt o lawer nac y buasent wedi ei dderbyn fel arall.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn mynd o nerth i nerth ac yn awr mae gwledydd eraill yn edrych tuag at Gymru i weld sut y gallant ddynwared ein gwasanaeth.

"Mae hynny’n deyrnged nid yn unig i’r staff anhygoel o wirfoddolwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ond hefyd i haelioni’r cyhoedd yng Nghymru sy’n rhoi eu harian mor rhydd bob blwyddyn.

“Dyw cadw gwasanaeth o’r radd flaenaf fel hyn ddim yn rhad, ond yn sicr mae’n werth ei gadw, ac y mae’r cyhoedd yng Nghymru yn ymateb yn rhyfeddol bob blwyddyn. Hir y parhaed hynny.”

Meddai Rhun ap Iorwerth AC: “Yr oedd pob un aelod o’r tîm y daethom ni ar eu traws yn haeddiannol falch o’r hyn maent yn wneud bob dydd i achub bywydau.

“Fe wnaeth yr efelychiad o ddamwain yn gwneud i ni sylweddoli’n union mor broffesiynol, mor sydyn a hanfodol yw’r gwasanaeth hwn i’r genedl.

"Mae’n wasanaeth sydd ei angen fwyfwy yn ardaloedd gwledig a mwyaf pellennig y wlad.”

Ychwanegodd: “Cawsom groeso cynnes ym Mhencadlys Dafen, ac yr oedd yn wych hefyd clywed am gynnydd y gwaith datblygu sy’n digwydd yng nghanolfan Caernarfon a fydd, meddant, yn cael ei gwblhau dros y misoedd nesaf.

Bydd hyn yn caniatáu i’r Ambiwlans Awyr ddarparu gwasanaeth gwell fyth, ac edrychaf ymlaen at ymweld â’r cyfleuster newydd, gwell hwnnw yn fuan iawn.

“Yn yr un modd â gweddill Cymru, mae’n bleser gan Blaid Cymru gefnogi’r elusen ryfeddol hon.”

Rhannu |