Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mawrth 2017

Bargen hanesyddol Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn sicrhau 10,000 o swyddi a buddsoddiad o £1.3bn i’r De-orllewin

Bydd bargen ddinesig hanesyddol gwerth £1.3bn ar gyfer rhanbarth Bae Abertawe yn trawsnewid economi'r De-orllewin, meddai'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Gyda chefnogaeth £125.4m o gyllid Llywodraeth Cymru, y fargen hon yw'r buddsoddiad unigol mwyaf yn y rhanbarth ac mae disgwyl iddi greu 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn dwyn ynghyd gynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro, ac yn cynnwys £115.6m o gyllid Llywodraeth y DU, £396m o arian sector cyhoeddus arall a £637m o fuddsoddiad sector preifat.

Ceir cynlluniau ar gyfer 11 o brosiectau sylweddol ar draws y rhanbarth ym meysydd ynni, gweithgynhyrchu clyfar, arloesi a gwyddorau bywyd.

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn cael cwmni Prif Weinidog y DU, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, pedwar arweinydd yr awdurdodau lleol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth lofnodi'r fargen ddinesig mewn seremoni yn Stadiwm Liberty, Abertawe y bore yma.

Cyn llofnodi, dywedodd y Prif Weinidog:  "Rydyn ni wedi bod yn pwyso'n galed ers tro am lofnodi'r fargen ddinesig hon, ac wedi rhoi'r gefnogaeth gryfaf bosib iddi gyda £125m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.

"Bydd y pecyn hwn yn sicrhau swyddi a thwf economaidd i bob cwr o'r De-orllewin, gyda manteision clir i bob ardal dan sylw.

"Bydd y fargen drawsnewidiol sy’n cael ei chyhoeddi heddiw yn ysgogi economi'r rhanbarth mewn cyfeiriad newydd, gyda chefnogaeth swyddi o ansawdd uchel a seilwaith digidol.

"Hoffwn i ddiolch i'n partneriaid – yn arbennig arweinwyr yr awdurdodau lleol a Syr Terry Matthews – am eu harweiniad a'u gweledigaeth wrth wireddu'r fargen hanesyddol hon.

"Mae hyn yn dangos ymarferoldeb bargeinion dinesig ar gyfer gwahanol rannau o Gymru, ac rydyn ni am weld hyn yn digwydd yn y Gogledd hefyd.

"Rydyn ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y gyllideb ddiweddar i Fargen Dwf Gogledd Cymru, ac fe fyddwn yn symud ymlaen gyda'r trafodaethau ar y cynigion."

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford: "Heddiw rydyn ni'n gweld penllanw sawl mis o drafod, ac rwy'n falch iawn o weld y fargen hon bellach yn cael ei gwireddu.

"Roedd angen llawer o waith caled i gyrraedd i'r fan hon, ond mae gan bob un o'r 11 prosiect mawr yma gefnogaeth ariannol a'r potensial i gyflawni ar ran pobl y De-orllewin, gan greu swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd y mae angen eu gweld ar draws y wlad."

 

Rhannu |