Mwy o Newyddion
Mae croeso i ffoaduriaid yma – Annibynwyr Sir Gâr
Mae corff sy'n cynrychioli bron i 3,000 o aelodau eglwysi Annibynnol yn Sir Gaerfyrddin wedi pleidleisio yn unfrydol i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant, merched a dynion sy'n chwilio am noddfa rhag peryglon rhyfel a therfysg.
Wrth groesawu’r penderfyniad, dywedodd y Parchedig Aled Jones, Cadeirydd Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin, bod ffoaduriaid yn aml yn cael eu dilorni a’u gwrthod am nifer o resymau, gan gynnwys ofn y byddent rywsut yn dinistrio hunaniaeth y wlad sy’n eu derbyn ac yn peryglu lles cymdeithas.
Meddai: "Mae disgwyl i ni Gristnogion i groesawu’r gwrthodedig a’r anghenus, i ddarparu lloches i'r rhai sydd mewn angen.
"Mae’r croeso hwn yn ymestyn, wrth gwrs, i'r rhai sy’n ddilynwyr crefyddau eraill, yn ogystal â phobl nad ydynt yn ystyried eu hunain i fod yn grefyddol.
"Roedd Iesu, mab Joseph a Mair, yn ffoadur rhag erledigaeth ym Mhalestina.
"Yn y diwedd, lladdwyd ef gan bwerau crefyddol, gwleidyddol a milwrol am feiddio byw yn unol â chariad Duw lle bynnag yr aeth.
"Er cymaint yw’r demtasiwn i godi muriau ac eithrio pawb rydym yn ystyried sy’n wahanol i ni, mae ein gwlad yn lle gwell pan fyddwn yn agor ein drysau i’r sawl sydd angen ein help.
"Rydym yn gwrthod rhyfel fel modd i setlo anghydfod rhwng pobloedd, ond rhaid inni beidio â chuddio ein hwynebau pan welwn ein chwiorydd a brodyr yn dioddef oherwydd hynny.
"Yn yr un modd, fel Cristnogion rhaid i ni beidio â gwahardd o’n cymdeithas bobl nad ydynt yn rhannu ein credoau ni.
"Mae byd Duw yn ddigon mawr i bawb, a’n dyletswydd ni yw dysgu sut i rannu'r byd hwnnw yn deg ac yn gyfiawn gyda’r holl bobloedd.”
Cynhaliwyd Cwrdd Chwarter y Cyfundeb yng nghapel Pant-teg, achos a sefydlwyd yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg mewn dyffryn gwledig anghysbell gan Anghydffurfwyr cynnar oedd yn cael eu gwthio i'r cyrion a'u herlid am eu ffydd a’u cred.
Llun: Y Parchedig Aled Jones