Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Mawrth 2017

Ple i Carwyn Jones am refferendwm aml-opsiwn yng Nghymru - Yes Cymru

Mae ymgyrchwyr wedi apelio at arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad i gefnogi cynnal refferendwm aml-opsiwn ar statws cyfansoddiadol Cymru, gan gynnwys annibyniaeth, os oes refferenda yn yr Alban neu ogledd yr Iwerddon.

Mae’r mudiad Yes Cymru, sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth, yn dadlau bod rhaid i bobl Cymru benderfynu pa fath o berthynas maen nhw am gael gyda Lloegr, os yw Iwerddon yn penderfynu cynnal pleidlais ar uno’r Ynys neu’r Alban yn cynnal pleidlais ar annibyniaeth.  

Mewn llythyr at arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad, meddai Sandra Clubb, llefarydd ar ran Yes Cymru: “Mae Cymru wedi cyrraedd cyfnod tyngedfennol yn ei hanes: yn sgil datblygiadau yn yr Alban ac Iwerddon, mae cwestiwn hanfodol bwysig yn ein hwynebu: ydyn ni eisiau bod yn rhan o wladwriaeth 'Lloegr a Chymru' neu ydyn ni eisiau gweld Cymru fel gwlad annibynnol?

"Hawl pobl Cymru yw penderfynu ar y materion hyn, a hynny mewn refferendwm.

"Os yw gogledd yr Iwerddon neu’r Alban yn cynnal pleidlais ar adael y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i ni gael dweud ein dweud: mae’n rhy bwysig i’w adael i wleidyddion yn unig.

“Mae’r materion hyn yn effeithio cymaint ar ein cyfansoddiad a’n perthynas gyda’n cymodogion yn yr ynysoedd hyn a’r tu hwnt. Mae’n rhaid i ni gael refferendwm, ac, yn wir, mae’n anochel.”

Ychwanegodd Sandra Clubb: "Mae’n rhaid i’r pleidiau gwleidyddol adael i bobl Cymru benderfynu ar dynged ein cenedl - ni'r bobol biau'r ymgyrch hon ac mae hi ar gerdded.

"Rhaid i benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae gyda ni'r hawl i fod yn genedl annibynnol a does dim dwyfol hawl gan San Steffan i deyrnasu drosom."

Rhannu |