Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mawrth 2017

Llŷr Gwyn Lewis ymysg 10 llais newydd o Ewrop

Mae Llŷr Gwyn Lewis wedi cael ei enwi ymysg 10 awdur sy'n dechrau dod i'r amlwg yn Ewrop ar gyfer ymgyrch hyrwyddo arbennig yn ystod 2017-18.

Cafodd enwau'r Deg Llais Newydd o Ewrop eu cyhoeddi yn Ffair Lyfrau Llundain 2017 fel rhan o brosiect arloesol o’r enw Ewrop Lenyddol Fyw, sy’n cael ei arwain gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau (LAF).

Wedi’i lleoli yn Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Ewrop Lenyddol Fyw yn dod ynghyd ag ystod o bartneriaid llenyddol o 15 o wahanol wledydd yr UE.

Ymhlith y Deg Llais Newydd ar gyfer 2017 mae nofelwyr, beirdd, dramodwyr a chyfieithwyr o Gymru, Gwlad Belg, Bosnia a Herzegovina, Ffrainc, Gwlad yr Iâ, Latfia, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Romania a Sbaen.

Hon yw ail flwyddyn y prosiect Lleisiau Newydd a’r nod yw rhoi llwyfan rhyngwladol i awduron diddorol nad sy’n adnabyddus y tu hwnt i ffiniau eu mamwlad.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Fforwm Mynediad Lleol, Alexandra Büchler: "Fe wnaethon ni ddewis ein casgliad cyntaf o Ddeg Llais Newydd ym mis Ebrill 2016 ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi cael cyfle i gyflwyno eu gwaith mewn nifer o wyliau llenyddol ar draws Ewrop a thu hwnt.

"Mae eu gwaith wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd ac mae rhai ohonyn nhw bellach wedi sicrhau cytundebau ar gyfer cyfieithu eu llyfrau.

"Mae'r awduron yma yn sicr wedi dod yn fwy adnabyddus yn y byd llenyddol rhyngwladol ac wedi elwa’n greadigol ac yn broffesiynol o’u profiadau.

"Rydyn ni bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda'n detholiad newydd o awduron a chyflwyno’u gwaith i gynulleidfa ehangach."

Yn dilyn y cyhoeddiad yn Ffair Lyfrau Llundain, bydd y Deg Llais Newydd 2017 yn dod at ei gilydd yng ngŵyl lenyddol Kosmopolis sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Diwylliant Cyfoes Barcelona 22-26 Mawrth.

Yn ystod eu hymweliad, fe fyddan nhw’n rhoi darlleniadau cyhoeddus fel rhan o raglen yr ŵyl, yn cwrdd â chyhoeddwyr lleol, asiantau a threfnwyr digwyddiadau llenyddol, ac yn derbyn cyngor proffesiynol ar sut i ddatblygu gyrfa lenyddol ryngwladol.

Mae detholiad Lleisiau Newydd o Ewrop yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw sy'n cael ei gydlynu gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a’i gyd-ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Manylion y Deg Llais Newydd

  • Andrei DÓSA (Romania)

Ganed Andrei Dósa yn Brasov, Rwmania, yn 1985. Cînd va ceea Veni des?vîr?it Este ce (Pan ddaw cyflawnder, 2011) oedd ei gyhoeddiad llenyddol cyntaf ac fe enillodd wobr genedlaethol am farddoniaeth Mihai Eminescu Opera Prima Barddoniaeth a gwobr Iustin Pan?a am gyhoeddiad cyntaf.

  • ARVIS VIGULS (Latfia)

Bardd o Latfia yw Arvis Viguls (1985). Mae hefyd yn feirniad llenyddol ac yn gyfieithydd o'r Saesneg, Sbaeneg, Rwsieg a Serbo-Croateg. Fe dderbyniodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth Istaba (Ystafell, 2009) wobr Undeb Awduron Latfia ar gyfer y gyfrol début gorau a gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Dzejas dienas sef prifwyl Latfia.

  • Asia BAKI? (Bosnia a Herzegovina)

Mae Asia Baki? (1982) yn fardd, awdur a chyfieithydd. Cafodd ei geni yn Tuzla, lle cafodd radd mewn iaith a llenyddiaeth Bosnia. Mae hi wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Može i kaktus, samo neka bode (Gall fod yn gactws, cyhyd â'i fod yn pigo, 2009), a enwebwyd ar gyfer Gwobr Kiklop am gyfrol gyntaf.

  • BRONKA NOWICKA (Gwlad Pwyl)

Ganed Bronka Nowicka yn 1974 yn Radomsk, Gwlad Pwyl. Mae’n gyfarwyddwr ffilm, yn sgriptiwr ac yn fardd. Mae ganddi radd mewn Cyfarwyddo Ffilm o Ysgol Ffilm yn ?ód? a gradd mewn Peintio o Academi Celfyddydau Cain Krakow, lle mae hi nawr yn fyfyrwraig PhD yn yr Adran Amlgyfrwng.

  • CHARLOTTE VAN Den BROECK (Gwlad Belg)

Bardd o Wlad Belg yw Charlotte Van den Broek (1991). Astudiodd Saesneg ac Almaeneg yn y brifysgol, ac mae bellach yn dilyn cwrs gradd yng Nghelfyddyd y Gair Llafar a Theatr yn y Conservatoire Brenhinol yn Antwerp. Gwnaeth ei début gyda'i chasgliad o farddoniaeth Kameleon (2015) a enillodd wobr début Herman de Coninck.

  • LLŶR GWYN LEWIS (Cymru)

Awdur a bardd Cymraeg yw Llŷr Gwyn Lewis (1987). Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghaernarfon, ac fe fu’n astudio ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen cyn cwblhau doethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a WB Yeats. Yn dilyn cyfnod fel darlithydd yn y Gymraeg ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, mae bellach yn gweithio fel golygydd adnodd yn y Cydbwyllgor Addysg. Cafodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Storm ar Wyneb yr Haul, ei chyhoeddi yn 2014. Fe enillodd ei ddarn cyntaf o ryddiaith Rhyw Flodau Rhyfel y wobr gyntaf yn y categori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn Cymru 2015. Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen ac erthyglau mewn cyfnodolion Cymraeg, gan gynnwys Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Taliesin ac O'r Pedwar Gwynt.

  • MANUEL ASTUR (Sbaen)

Mae Manuel Astur (1980) yn awdur, newyddiadurwr a chynhyrchydd cerddoriaeth Sbaeneg. Mae'n dysgu llenyddiaeth yn yr Escuela de Letras de Gijón. Mae wedi cyhoeddi casgliad o farddoniaeth Y encima es mi cumpleaños (Ac ar ben popeth, mae’n ben-blwydd arnaf, 2013), nofel Quince Dias para acabar côn el Mundo (Pymtheg niwrnod i ddileu’r byd, 2014) a thraethawd Seré un anciano hermoso en un gran país (Byddai’n hen ddyn golygus mewn gwlad fawreddog, 2015), sydd i gyd wedi ennyn clod gan feirniaid a darllenwyr.

  • NATHALIE RONVAUX (Luxembourg)

Mae Nathalie Ronvaux (1977) yn fardd a dramodydd o Luxembourg. Mae hi'n ysgrifennu yn Ffrangeg ac mae wedi cyhoeddi pedair drama a phum casgliad o farddoniaeth, gan gynnwys La liberté meurt chaque jour au bout d’une corde (Mae rhyddid yn mawr bob dydd ar derfyn rhaff, 2012) a dau lyfr celf o farddoniaeth ar y cyd â’r artistiaid gweledol Bertrand Ney a Robert Brandy.

  • SOPHIE DIVRY (Ffrainc)

Mae Sophie Divry (1979) yn un o nofelwyr rhagorol y cnwd diweddaraf o awduron naratif Ffrenig. Mae wedi gweithio fel newyddiadurwraig ar gyfer cyhoeddiadau megis La Décroissance a Le Monde Diplomatique, ac ers 2016 mae wedi cyfrannu at raglen radio ar France Culture. Mae’n ymgyrchydd ffeministaidd ac yn sylwedydd craff ar gymdeithas gyfnewidiol. Mae ei phedair nofel yn archwilio ystod o faterion cymdeithasol.

  • STEINUNN G. HELGADÓTTIR (Gwlad yr Iâ)

Mae Steinunn G. Helgadóttir (1952) o Wlad yr Iâ yn artist gweledol, yn fardd adnabyddus ac yn awdur rhyddiaith. Graddiodd o Academi’r Celfyddydau yn Göteborg. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth Kafbátakórinn (Côr y llong danfor) yn 2011, a’r ail, Skuldunautar (Dyledwyr), yn 2013. Derbyniodd Wobr Farddoniaeth Jón úr Vör yn 2011 a Gwobr Llenyddiaeth Menywod Gwlad yr Iâ am ei nofel Raddir UR húsi loftskeytamannsins (Lleisiau o dŷ’r gweithredwr radio), a gyhoeddwyd yn 2016.

Llun: Mae Llŷr Gwyn Lewis o Gymru wedi ei ddewis yn un o Ddeg Llais Newydd 

Rhannu |