Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mawrth 2017

Anelu am ddathliad dwbl i Gymru ym Mharis

Efallai y bydd gwrthdaro ar y cae rygbi y penwythnos hwn, ond mae cig coch o Gymru yn ffefryn ymhlith Ffrancwyr.

Wrth i dîm Cymru geisio ymestyn ei rhediad o fuddugoliaethau ym Mharis, mae Cig Oen Cymru wrthi’n profi nad Leigh Halfpenny yw’r unig enghraifft o allforion Cymreig yn mwynhau llwyddiant yn Ffrainc.

Ers nifer o flynyddoedd, Ffrainc fu’r farchnad dramor fwyaf am Gig Oen Cymru PGI, gyda mwy o gwsmeriaid bob blwyddyn yn ei ddewis.

Y cwmni diweddaraf i benderfynu mai cig Cymru yw’r gorau yw Boucherie Lalauze, cyflenwr cig o safon uchel sydd â siop yn ardal Pont-de-Flandre, sef canolfan hanesyddol y diwydiant cig ym Mharis, yn ogystal â chyflenwi cannoedd o dai bwyta a chwmnïau arlwyo ar draws y ddinas.

Meddai Julien Courtin, Cyfarwyddwr Boucherie Lalauze: “Rwy’n falch o gyflenwi Cig Oen Cymru, i’n cwsmeriaid yn y siop a hefyd ein cleientiaid yn y diwydiant gwasanaeth bwyd, ochr-yn-ochr â gweddill ein cig safonol.

"Mae ei statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) yn bwysig wrth roi hyder i bobl yn ei darddiad, yn ogystal â’i flas dihafal.”

“Mae Ffrainc yn farchnad bwysig iawn, sydd werth miliynau o bunnau’r flwyddyn i ffermwyr a phroseswyr Cymru,” meddai Deanna Leven, Swyddog Datblygu Allforion i Hybu Cig Cymru (HCC).

“Mae Cig Oen Cymru PGI wedi ennill ei le ymhlith y bwyd o safon y mae pobl Paris yn ei werthfawrogi, ac rwy’n falch iawn fod Boucherie Lalauze wedi dewis ymddiried yn safon a tharddiad cig Cymreig.

"Does ond gobeithio y gallwn ddathlu cwsmer newydd i Gig Oen Cymru yn Ffrainc gyda buddugoliaeth i dîm Cymru ddydd Sadwrn!”

Llun: Deanna Leven o HCC gyda Julien Courtin, Cyfarwyddwr Boucherie Lalauze

Rhannu |