Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mawrth 2017

DEC Cymru yn lansio apêl Dwyrain Affrica

Bydd y Pwyllgor Argyfyngau Brys yng Nghymru (DEC Cymru) yn lansio ei hapêl argyfwng ar gyfer Dwyrain Affrica ar ddydd Llun, 20 Mawrth.

Mae’r apêl i godi arian ar gyfer yr 16 miliwn o bobl sydd mewn perygl o newynu yn Ethiopia, Kenya, Somalia a De Swdan, eisoes wedi ei lansio yn genedlaethol yn y DU ers ddydd Mercher ac fe gododd £12m ar y diwrnod cyntaf.

Mae’r bobl sy’n byw yn y gwledydd rhain yn nwyrain Affrica yn dioddef o ddiffyg bwyd, dŵr a thriniaeth feddygol o ganlyniad i sychder a gwrthryfel yn achos Somalia a De Swdan.

Mae pobl eisoes yn marw yn Somalia a De Swdan, mae ystad o argyfwng cenedaethol wedi ei gyhoeddi yng Kenya ac mae Ethiopia yn ymrafael â sychder enyd yn dilyn yr El Nino gryfaf ar gofnod.

Merched, plant a’r henoed yw’r rhai sy’n dioddef fwyaf, gyda mwy na 800,000 o blant yn profi effeithiau diffyg maeth difrifol.  

Wrth i’r apêl lansio yng Nghymru mae’r elusennau sy’n aelodau o’r DEC eisoes yn cyrraedd miliynau o bobl yn y pedair gwlad gan gyflenwi cymorth fel bwyd, triniaeth ar gyfer effeithiau diffyg maeth ac arian.

Mae gan Gymru gysylltiadau cryf a hir-dymor gydag Affrica ac mae Caerdydd yn gartref i un o’r cymunedau Somali mwyaf a hynaf ym Mhrydain, gyda thrigolion o’r wlad yn nwyrain Affrica wedi byw yn y Brifddinas ers mwy na chanrif.

Yn y blynyddoedd diweddar mae Cymru wedi dod yn gartref i nifer o bobl o dde Swdan sydd wedi eu gorfodi i ffoi o’u gwlad o achos gwrthdaro.

Mae’r rhaglen ‘Cymru o Blaid Affrica’ wedi cefnogi prosiectau datblygu ar draws y cyfandir ers degawd a mwy ac mae nifer o gymunedau yng Nghymru gyda phartneriaeth ffurfiol a chysylltiadau gyda chymunedau yn Nwyrain Affrica.

Mae nifer o bobl broffesiynol o Ddwyrain Affrica yn gweithio mewn prifysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.

Meddai Kirsty Davies-Warner, cadeirydd DEC Cymru: “Mae gan y cyhoedd yng Nghymru draddodiad hir o gyfrannu yn hael i achosion o argyfyngau dyngarol rhyngwladol ac rwy’n ffyddiog y byddwn ni eto yn ymateb ac yn cefnogi y bobl sydd mewn perygl o newynu yn Ethiopia, Kenya, Somalia a De Swdan.

“Mae’r rhan yma o’r wlad yn rhan o’n hymwybyddiaeth genedlaethol ni gan fod gan nifer ohonom ffrindiau, teulu a chydweithwyr sydd wedi symud yma o ddwyrain Affrica ac sydd â chymaint i’w gynnig i Gymru.  

“Allwn ni ddim fforddio i oedi – nawr yw’r amser i gynnig ein cefogaeth i’r bobl sy’n dioddef o newyn enbyd.

“Fel arall mae’r sefyllfa yn mynd i waethygu a bydd nifer yn marw yn ddi-angen os na allwn ni gyflenwi y bwyd, dŵr a’r driniaeth feddygol sydd ei angen arnynt.”

Roedd y £12 miliwn a godwyd ar draws y DU ar gyfer yr apêl pan lansiwyd ar ddydd Mercher, 15 Mawrth yn gyfraniad o  £7 miliwn gan y cyhoedd drwy decst, ffôn ac ar-lein a chyfanswm o £5 miliwn gan Lywodraeth Prydain drwy ei Chronfa Cyfateb Arian Dygarol (Aid Match Fund).

Beth all eich arian brynu:

  • gall £25 brynu cyflenwad mis o bâst cnau sy’n gallu achub bywyd plentyn sy’n dioddef o ddiffyg maeth
  •  gall £60 gyfrannu digon o ddŵr yfed glân i ddau deulu am fis
  • gall £100 olygu fod gan glinig gwerth wythnos o gyflenwadau meddygol i drin plant sy’n dioddef o ddiffyg maeth.

I gyfrannu i Apêl DEC Dwyrain Affrica ewch i www.dec.org.uk, ffoniwch y rhif 24-awr ar 0370 60 60 610, cyfrannwch dros y cownter mewn unrhyw fanc ar y stryd fawr neu swyddfa bost, neu anfonwch siec. Fe allwch hefyd gyfrannu  £5 drwy decstio y gair HELPU neu ASSIST i 70000.

Rhannu |