Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2017

Aldi yn ymestyn ei ddarpariaeth o Gig Oen Cymru ffres

Mae archfarchnad Aldi wedi cyflwyno pump o gynhyrchion Cig Oen Cymru newydd i’w siopau yng ngogledd Cymru.

Mae’r toriadau, sy’n cynnwys stêcs, coesau, golwythion, brest ac ysgwydd, oll yn dod o ffermydd sy’n rhan o’r cynllun Tractor Coch.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil menter debyg yn ne Cymru ddiwedd llynedd ac mae’n golygu fod pob un o 38 archfarchnad Aldi yng Nghymru nawr yn gwerthu ystod eang o Gig Oen Cymru drwy gydol y flwyddyn.

Cadarnhaodd Aldi, sy’n ddiweddar wedi esgyn i’r pumed safle o ran cyfran y farchnad ymhlith archfarchnadoedd y DU, y byddent yn ymateb i unrhyw ddiffyg cyflenwad o ffermydd Cymru trwy ddefnyddio cig oen o lefydd eraill ym Mhrydain.

Meddai Tony Baines, Cyd Reolwr Gyfarwyddwr Pryniant Aldi UK: “Ers ei gyflwyno y llynedd mae’n cynnyrch cig oen ffres wedi bod yn boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid ar draws de Cymru. Ry’n ni wrth ein bodd yn ymestyn hyn i siopau yn rhannau eraill o’r wlad.

“Mae’r cynnyrch i gyd yn deillio o Gymru ac mae’n cael ei labelu’n glir i sicrhau cwsmeriaid eu bod yn cefnogi ffermwr o Gymru wrth brynu’r cynnyrch.”

Dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Marchnata Hybu Cig Cymru: “Ry’n ni’n gweithio gyda’r holl gwmniau archfarchnad ym Mhrydain, yn eu cynorthwyo i ddod o hyd i gyflenwad o gig coch o safon uchel o ffermydd Cymreig, ac ry’n ni wrth ein bodd yn dathlu’r ymrwymiad yma i Gig Oen Cymru PGI.

"Mae ehangu argaeledd y cig oen ffres yma i fwy o siopau yn arwydd o hyder yn ein diwydiant, ac yn ymateb i ddymuniad y cyhoedd i fwynhau Cig Oen Cymru drwy gydol y flwyddyn.”

Bydd Aldi hefyd yn agor ei chanolfan ddosbarthu £60m newydd yng Nghaerdydd fis nesa.

Mae’n mesur 46,000m2, a bydd y ganolgan yn gwasanaethu’r nifer cynyddol o archfarchnadoedd sydd gan Aldi ar draws Gymru a de-orllewin Lloegr, ac yn creu 400 o swyddi.

Rhannu |