Mwy o Newyddion
Cynllun arloesol yn annog modurwyr i yrru’n ddiogel
Mae ymgyrch ar y cyd yn ardal Penrhosgarnedd yng Ngwynedd yn annog modurwyr i yrru’n synhwyrol a pharchu croeswr plant ysgol yn yr ardal sy’n gweithio i sicrhau fod disgyblion cynradd yn gallu cerdded i ac o’r ysgol yn ddiogel.
Yn dilyn pryderon sydd wedi eu hamlygu gan staff, rhieni a disgyblion Ysgol y Garnedd dros y misoedd diweddar am agwedd rhai modurwyr tuag at groeswr plant ysgol, mae tîm Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd ynghyd a swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn monitro’r sefyllfa.
Ar ôl ystyried y sefyllfa yn ofalus, mae penderfyniad wedi bod i’r croeswr plant ysgol sy’n cynorthwyo disgyblion y Garnedd i groesi’r ffordd ger yr ysgol i wisgo camera corff.
Bydd hyn yn galluogi staff trafnidiaeth y Cyngor i fonitro’r sefyllfa a chyfeirio unrhyw dystiolaeth o yrru anghyfrifol ymlaen at yr heddlu pe byddai angen.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd, sy’n arwain ar faterion trafnidiaeth: “Mae’r mwyafrif llethol o fodurwyr yn parchu’r gwaith pwysig mae croeswyr plant ysgol yn ei wneud wrth gynorthwyo disgyblion i gerdded i’r ysgol ac adref ar ddiwedd y dydd.
“Ond mewn rhai amgylchiadau, mae ambell fodurwr yn gallu bod yn ddi-feddwl, ac yn anwybyddu croeswr plant ysgol pan maent yn camu allan i’r ffordd i gynorthwyo plant i groesi.
"Mae hyn yn amlwg yn destun pryder, a’n gobaith ni ydi y bydd y cynllun peilot yma – y cyntaf o’i fath yng Nghymru – yn codi ymwybyddiaeth am yr angen i barchu croeswyr plant ysol a’r gwaith clodwiw maen nhw’n ei wneud.
“Ein gobaith ydi na fydd angen i’r swyddog ddefnyddio’r camera, ond os bydd modurwr yn gyrru’n anghyfrifol, bydd modd defnyddio’r camera ac anfon y dystiolaeth ymlaen i’r heddlu i ymchwilio.”
Meddai Llion Williams, Pennaeth Ysgol y Garnedd: “Mae’r sefyllfa wedi bod yn bryder gennym ers peth amser wrth geisio diogelu disgyblion, staff a rhieni wrth iddynt groesi’r ffordd ar ddechrau a diwedd diwrnod ysgol.
"Mae’r mwyafrif yn parchu Mr Arwel (croeswr ffordd) ac ychydig iawn o yrwyr sydd yn ei anwybyddu a pheryglu ei ddiogelwch a diogelwch y plant a’r rhieni.
“Yr ydym yn croesawu’r camera newydd er mwyn gallu cadw cofnod o unrhyw achos o yrwyr yn anwybyddu rheolau’r ffordd fawr.
"Edrychwn ymlaen i gyd weithio gyda swyddogion yr Heddlu a thîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd i sicrhau fod pawb sydd yn croesi’r ffordd yn cael gwneud hynny yn ddiogel.”
Nododd Arwel Owen, croeswr plant ysgol ger Ysgol y Garnedd: “Mae’r rhan fwyaf o bobl yn arafu ac yn stopio pan fyddai’n camu i’r lon i helpu’r plant i groesi, ond mae yna ambell un sy’n meddwl fod ganddyn nhw’r hawl i anwybyddu a gyrru ymlaen.
"Yr hyn dwi’n drio ei w neud ydi gwneud yn siwr fod y disgyblion yn crfoesi’r ffordd yn ddiogel, felly dwi’n gobeithio y bydd y cynllun yma yn ffordd o gael pob car i stopio – diogelwch y plant sy’n bwysig.”
Ychwanegodd yr Arolygydd Dave Cust o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffem gymryd y cyfle i atgoffa defnyddwyr ffyrdd am bwysigrwydd dilyn arwyddion traffig ar y ffyrdd a gyrru yn ddiogel, yn enwedig o gwmpas ysgolion.
"Mae agwedd wael i ddiogelwch ffyrdd o gwmpas ysgolion a amlygir gan nifer fechan o yrwyr yn destun pryder a hoffwn i annog defnyddwyr y ffordd i drin pawb gyda pharch ac i beidio â pheryglu pobl eraill.
"Bydd unrhyw dystiolaeth o droseddau moduro fydd yn cael eu dal ar y camera yn cael ei gyflwyno i Heddlu Gogledd Cymru drwy ‘Ymgyrch Snap’ - ymgyrch a lansiwyd y llynedd i dynnu sylw at yrru'n beryglus.
"Gall lluniau fydd yn cael eu dal ar gamerau dashfwrdd gael eu cyflwyno drwy'r wefan a byddant yn cael eu hystyried i weld a oes digon o dystiolaeth i erlyn.
"Tydi’r rheini sy’n barod i beryglu eu bywydau a bywydau pobl eraill ddim i’w croesawu ar ein ffyrdd.
"Os ydi pobl yn gwybod fod yna siawns llawer uwch o gael eu herlyn ac mewn perygl o golli eu trwydded, yna efallai y byddant yn meddwl ddwywaith am gyflawni'r troseddau hyn."
Mae 20 o groeswyr plant ysgol yn gweithredu ar draws Gwynedd. Tra nad oes gorfodaeth statudol ar y Cyngor i ddarparu croeswyr plant ysgol, mae’r Cyngor wedi adolygu safleoedd y tu allan i ysgolion, gyda croeswyr ffyrdd yn cael eu cyflogi lle mae’r gofyn.
LLUN: Arwel Owen, croeswr plant ysgol a Llion Williams, Pennaeth Ysgol y Garnedd