Mwy o Newyddion
Dicter with i’r grant Brenhinol godi i dros £70 miliwn y flwyddyn
Mae Plaid Cymru wedi disgrifio penderfyniad San Steffan i gynyddu’r grant Brenhinol fel un “anfad” ac mae wedi galw am ddatganoli Stad y Goron rhag blaen er mwyn sicrhau fod yr elw o adnoddau naturiol Cymru yn aros yng Nghymru.
Pleidleisiodd ASau ddoe i gynyddu’r hyn a elwir yn ‘grant sofran’ o 15% i 25% o elw Stad y Goron.
Honna llywodraeth San Steffan y defnyddir yr arian i dalu am “ddyletswyddau swyddogol y Frenhines” ac adnewyddu Palas Buckingham.
Daw’r penderfyniad ddyddiau yn unig wedi i Ganghellor y Deyrnas Gyfunol wneud datganiad ar y Gyllideb oedd yn ymrwymo pobl Cymru a’r Deyrnas Gyfunol i ddegawd arall o lymder a rhoi’r baich trymaf o drethi ers cenhedlaeth ar bobl gyffredin.
Mae Stad y Goron yn berchen ar dir ac asedau yng Nghymru sy’n werth £100 miliwn gyda refeniw blynyddol o £10 miliwn.
Cynigiodd ASau Plaid Cymru welliannau i Ddeddf Cymru San Steffan yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, i ddatganoli Stad y Goron i Gymru, fel y byddai’r sefyllfa’r un fath â’r un yn yr Alban. Gwrthod y gwelliannau hyn a wnaeth San Steffan.
Sylw llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards, oedd: “Ar adeg pan fo San Steffan yn gofyn i bobl gyffredin ysgwyddo’r baich trethi trymaf ers cenhedlaeth, mae bron i ddwblu’r grant Brenhinol i £70 miliwn yn sarhad ac yn beryglus.
"Yr hyn sy’n waeth yw y daw’r arian hwn o elw a wneir o Stad y Goron, sy’n cynnwys tir ac asedau yng Nghymru sydd yn nwylo’r Frenhiniaeth.
“Mae adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio i adnewyddu Palas Buckingham.
"Mae’n ddigon drwg fod San Steffan yn gwrthod rhoi i bobl Cymru berchenogaeth dros eu hadnoddau eu hunain, ond mae defnyddio’r arian maen nhw wedi’i odro o’n hadnoddau ni i roi mwy fyth o arian i’r frenhiniaeth yn anfad ac yn sarhad dwfn ar bobl Cymru.
“Pwysodd Plaid Cymru am ddatganoli Stad y Goron ym Mesur Cymru ond gwrthodwyd hyn gan San Steffan, er ei fod wedi ei ddatganoli yn yr Alban.
"Does dim rheswm yn y byd pam na ddylai pobl Cymru gael perchenogaeth dros eu hadnoddau naturiol eu hunain.
“Hawdd y gall San Steffan ddweud wrth Gymru ein bod yn rhy fach a rhy dlawd, a hwythau ond yn rhy falch i odro elw o’n hadnoddau naturiol i fwydo eu pibelli dŵr ac i dalu am eu palasau.
“Mae’n bryd i Gymru gymryd ei dyfodol i’w dwylo ei hun.
Mae’n amlwg nad yw San Steffan yn hidio taten am Gymru, a hyd nes i ni fynnu newid, bydd San Steffan yn parhau i drin Cymru yr un mor sarhaus.”
Llun: Jonathan Edwards