Mwy o Newyddion
Neuadd les y Glowyr yng nghanol y gymuned unwaith eto, diolch i’r Loteri Genedlaethol
Mae Neuadd Glowyr yng Nghwm Rhondda ar fin derbyn dyfarniad o £546,000 gan y Loteri Genedlaethol fydd yn gymorth i ddarparu gwasanaethau i amrywiaeth o grwpiau lleol. Dyfarnwyd £161,900 eisoes i’r Neuadd i ddatblygu ei chynlluniau mawreddog.
Neuadd Les Tylorstown yw’r olaf o blith Neuaddau Lles y Glowyr yn y Rhondda Fach ac, yn dilyn cau llyfrgell y dref, dyma’r unig gyfleuster cymunedol sydd ar gael i bobl leol.
Adeiladwyd yr adeilad rhestredig Gradd II yn 1933 yn defnyddio cyfraniadau gan lowyr, ac fe’i gwelwyd yn ddiweddar ar gyfres y BBC Who Do You Think You Are? gyda’r comedïwr Greg Davies.
Bwriadwyd y neuadd, ac eraill tebyg iddi ledled Cymru, fel ‘ffynhonnell goleuedigaeth’ i lowyr a’u teuluoedd, ond fel sydd wedi digwydd gyda llawer o neuaddau o’r fath, bellach mae angen datblygu’r adeilad a’i foderneiddio er mwyn gallu parhau i’w ddefnyddio a’i fwynhau.
Unwaith y bydd gwelliannau sylfaenol wedi’u gwneud i’r adeilad, bydd y neuadd yn gallu ehangu ei darpariaeth o wasanaethau cymunedol hanfodol fel cymorth gyda chyflogaeth a hyfforddiant yn ogystal â bod yn gartref i gaffi newydd ac amrywiol grwpiau lleol, o ddosbarthiadau drama i gylchoedd babanod.
Yn y pen draw, y gobaith hefyd yw y bydd hen sinema’r neuadd yn cael ei hatgyfodi – dyma fyddai’r unig sinema yn y Rhondda Fach.
Chaiff ei hanes pwysig dros 80 o flynyddoedd ddim ei anghofio wrth i wirfoddolwyr a phlant ysgol gydweithio gydag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe i goffáu etifeddiaeth y neuadd.
Mae ei llyfrgell wreiddiol yn dal i fod yn yr adeilad, fel y mae ei hystafell ddarllen, ystafell snwcer a chwaraeon yn ogystal â gofod mawr ar gyfer dawnsio ac adloniant.
Bydd aelodau hŷn o’r gymuned hefyd yn gallu cofnodi eu hatgofion am y neuadd pan oedd ar ei hanterth, gan helpu i roi bywyd newydd i’r hen adeilad, oedd mor annwyl i lawer, er budd trigolion heddiw.
I wybod mwy am y math o brosiectau treftadaeth y gall y Loteri Genedlaethol helpu i’w cyllido, ewch i http://hlf.org.uk