Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2017

Pentref yn Nwyfor ar frig rhestr yr ardaloedd gwaethaf ar gyfer cyflymder band eang

Mae data newydd ar gyflymder band eang yn datgelu fod dau bentref yn Nwyfor Meirionnydd ymhlith y gwaethaf yn y DU o ran cyflymder llawrlwytho.

Mae ffigyrau a ryddhawyd gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn datgelu fod Abererch ar frig rhestr holl wardiau cynghorau ar draws y DU o ran y cyflymder arafaf i lawrlwytho, sef 2.7Mb/s gyda Tudweiliog ym Mhen Llŷn gyda 4.7Mb/s.

Mae saith o'r 10 ardal arafaf ar gyfer cyflymder band eang yng Nghymru.

Mae AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts yn dadlau fod pobl sy’n byw yng nghefn gwlad yn dioddef yn anghyfartal pan ddaw i gyflymder band eang, ac wedi croesawu’r newyddion fod BT ac Openreach yn gwahanu fel cyfle i 'fuddsoddi o ddifri’ yn seilwaith ddigidol Cymru, fel nad oes unrhyw gartref neu fusnes yn cael eu gadael ar ôl.

Mae dros hanner y cartrefi yn yr etholaeth (50.9%) yn derbyn cyflymder cysylltiad band eang o dan 10Mb/s, yr lefel isaf sy’n dderbyniol i lawrlwytho a osodwyd gan y Llywodraeth yn y Mesur Economi Digidol.

Mae'r ffigurau hefyd yn dangos fod 7.1% o gartrefi yn derbyn y cyflymder arafaf posibl (o dan 2Mb/s) o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 2.9%.

Mae cyflymder cyfartaledd llawrlwytho Dwyfor Meirionnydd yn waeth o lawer na chyfartaledd y DU.

Cymunedau eraill a nodwyd gan etholwyr fel rhai sydd â diffyg yn narpariaeth band eang ydy; Rhydymain, Harlech, Rhyd a Llanfrothen a Botwnnog.

Dywedodd Mrs Saville Roberts: “Mae'r ffigurau hyn yn ailddatgan y rhaniad anghymesurol rhwng yr ardaloedd hynny sydd yn gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn a’r cymunedau gwledig hynny sy’n ei chael hi’n anodd derbyn isafswm cyflymder llawrlwytho y Llywodraeth o 10Mb/s.

“Mae'n frawychus bod saith allan o'r 10 ardal sy’n perfformio waethaf o ran cyflymder band eang yng Nghymru, gyda dau yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

"Yn wir, o'r rhanbarthau hynny a nodwyd gyda chyflymder llawrlwytho gwael, y gwaethaf yw gogledd orllewin Cymru.

“Dylid sylweddoli fod y bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn gorfod dygymod â chysylltedd cyffredinol gwael hefyd.

“Mae llawer o fy etholwyr yn methu cael mynediad at beth y mae Ofcom yn ei gydnabod fel y cyflymder angenrheidiol i ddarparu 'profiad derbyniol', sy'n ofynnol ar gyfer tasgau sylfaenol fel pori'r we, ffrydio a galwadau fideo.

“Mae uwchraddio seilwaith ddigidol mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw’r economi wledig dan anfantais bellach.

"Mae'r sefyllfa bresennol yn amlwg yn rhoi busnesau o dan anfantais ac yn gwneud i ddarpar gyflogwyr feddwl ddwywaith cyn buddsoddi mewn ardaloedd o'r fath.

“Yr hyn yr ydym ei angen yng Nghymru yw cydraddoldeb mynediad at seilwaith telathrebu y wlad.

"Rwy'n gobeithio bydd gwahanu BT o Openreach yn rhoi diwedd ar y monopoli yn narpariaeth band eang, sydd wedi methu hyd yn hyn i gwrdd ag anghenion penodol llawer o gymunedau gwledig.”

Dywedodd Aelod y Cabinet Cysgodol dros Faterion Gwledig Simon Thomas AC: “Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi cael sawl cyfle i gwrdd â thrafod gyda thrigolion ardaloedd gwledig Cymru.

"Yn anffodus, yr un broblem sydd yn codi tro ar ôl tro sef y diffyg amlwg yn narpariaeth band-eang yn yr ardal.

“Rwyf wedi gofyn cwestiynau yn gyson i Lywodraeth Cymru a BT ar ran etholwyr fel Aelod Cynulliad ac fel Aelod y Cabinet Cysgodol dros Faterion Gwledig, teimlaf fod Band Eang yn hanfodol bwysig i sicrhau economi llewyrchus i Gymru.

“Nid yw’r ystadegau ar gyflymder band-eang yng Nghymru yn creu syndod gan fod Llywodraeth Cymru wedi methu cwrdd â gofynion a sicrhau bod gan drigolion Cymru wledig mynediad cyson a chyflym i wasanaethau band-eang.

“Os rydym o ddifri am sicrhau economi llewyrchus ar draws Cymru, gan gynnwys ein hardaloedd gwledig, rhaid i ni sicrhau bod gan bob rhan o Gymru Fand Eang dibynadwy.”

Llun: Liz Saville Roberts

Rhannu |