Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2017

Plaid yn lansio Cyrraedd y Miliwn - fframwaith strategol er mwyn cyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg

Bydd Sian Gwenllian AC, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg, yn lansio papur strategol cynhwysfawr heddiw (16 Mawrth), ar sut i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r ddogfen sydd wedi ei chomisiynu gan Blaid Cymru a'i llunio gan IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith yn archwilio'r her mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei gosod iddi hi ei hun o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gan gyflwyno llu o argymhellion ar y camau angenrheidiol i gyflawni hynny.

Wrth siarad cyn lansio'r papur "Cyrraedd y Miliwn", dywedodd Sian Gwenllian AC mai prif ddiben y ddogfen oedd i ddefnyddio arbenigedd annibynnol IAITH er mwyn hwyluso gwaith y Llywodraeth o gyrraedd y nod heriol o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a mynegodd ei gobaith y byddai'r gwaith yn cael ei gymeradwyo gan y Gweinidog Llafur, cyrff yr iaith Gymraeg a'r boblogaeth yn ehangach.

Ymysg prif argymhellion y ddogfen mae tyfu’r sector addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg, sicrhau fod ystyriaethau i’r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol, cryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg yn rheoleiddio a hyrwyddo’r iaith, a sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo’r iaith ym meysydd addysg, y gymuned a’r economi.

Dywedodd Sian Gwenllian: "Mae nod Llywodraeth Lafur Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn uchelgeisiol ac yn un mae Plaid Cymru yn cytuno a hi.

"Fodd bynnag, mae dros chwe mis wedi mynd heibio ers i'r amcan hon gael ei chyhoeddi, a phrin yw'r manylion o hyd ynglŷn â sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod.

"Mae Plaid Cymru wedi comisiynu papur strategol annibynnol ei hun er mwyn tanio'r broses o gymryd camau cadarn ac ymarferol i greu dros 400,000 o siaradwyr Cymraeg newydd dros y tri degawd nesaf.

"Mae 'Cyrraedd y Miliwn' yn ddogfen gynhwysfawr sy'n cyflwyno llu o argymhellion ar gyfer llunio strategaeth effeithiol.

"Fel y nodir yn glir ynddi, yn greiddiol i'r strategaeth mae'n rhaid creu'r amodau economaidd priodol i ffyniant yr iaith.

"Mae hi'n gynyddol amlwg fod her yr iaith yn sefyll ochr-yn-ochr a'r her o drechu tlodi a sicrhau dygnwch economaidd ein cymunedau ledled y wlad.

"Mae'n bryd i'r Llywodraeth Lafur roi'r gorau i anwybyddu'r ffaith fod cyflogau isel a diffyg cyfleoedd yn plagio cadarnleoedd yr iaith.

"Cred Plaid Cymru fod economi Cymru-gyfan gref yn allweddol i ddyfodol yr iaith ac mae'n galonogol gweld rhai o'r argymhellion hyn yn atgyfnerthu'r farn honno.

"Yn bennaf oll, rhaid sicrhau fod gan bobl o bob oed yr amodau a'r adnoddau angenrheidiol i ddysgu ac i ddefnyddio'r iaith mewn addysg, mewn gwaith ac mewn bywyd bob dydd.

"Rwy'n obeithiol y bydd y ddogfen hon yn symbyliad i'r Llywodraeth roi'r gorau i siarad am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac i fwrw iddi gyda'r gwaith heriol ond hanfodol o gyflawni hynny."

Rhannu |