Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mawrth 2017

Cymdeithas yr Iaith yn herio'r pleidiau i greu'r miliwn o siaradwyr Cymraeg

Cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, mae ymgyrchwyr iaith wedi herio'r pleidiau i ymrwymo i gymryd camau'n lleol i gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mewn llyfryn polisi, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar ymgeiswyr yn yr etholiadau ym mis Mai i ymrwymo i gymryd camau er mwyn gwireddu tri nod sydd eisoes wedi ennyn cefnogaeth drawsbleidiol, sef: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn, atal yr allfudiad, a galluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ymhob rhan o fywyd.

Ymysg y galwadau mwy penodol i weithredu'n lleol, mae’r mudiad yn gofyn ar i ddarpar gynghorwyr gefnogi camau fydd yn:

  • Normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg   
  • Cryfhau gweinyddiaeth fewnol Gymraeg   
  • Cryfhau'r Gymraeg drwy'r system gynllunio a sicrhau bod targedau tai yn seiliedig ar anghenion lleol   
  • Hyrwyddo economi Gymraeg, a blaenoriaethu buddiannau busnesau bychain lleol ynghyd â chynnal asesiadau o effaith datblygiadau ar yr economi a'r gymuned leol   
  • Cryfhau democratiaeth leol gan gadw gwasanaethau yn atebol i gynghorwyr lleol   
  • Cryfhau gweithgareddau diwylliannol Cymraeg a chefnogi mesurau i drosglwyddo'r iaith o fewn teuluoedd  

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r Llywodraeth yn ganolog wedi gosod nod i greu miliwn o siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg.

"Ond mae angen i gynghorau lleol weithredu llawer o newidiadau polisi er mwyn cefnogi'r uchelgais yna.

"Er enghraifft, ar lefel genedlaethol mae 80% o blant yn cael eu hamddifadu o'r gallu i siarad Cymraeg.

"Ond mae canran uchel ym mhob un sir yn dilyn llwybr 'ail iaith' ac yn sefyll arholiad eilradd 'ail iaith' - mae'r union ganran yn amrywio o oddeutu 19% yng Ngwynedd lan i 96% yn Sir Fynwy.

"Ddylai'r system addysg ddim gadael yr un plentyn yn y wlad heb y gallu i weithio a chyfathrebu'n rhugl drwy'r Gymraeg. Mae hynny'n her i bob ardal o Gymru.

"Hefyd, o ran yr economi, mae angen camau i flaenoriaethu buddiannau busnesau bach a lleol er mwyn cadw cyfoeth yn ein cymunedau lleol.

"Ac mae angen asesu datblygiadau o ran eu heffaith ar y gymuned a'r economi leol.

"Rydyn ni wedi gweld nifer o gynghorau'n plygu i bwysau gan gwmnïau mawrion megis Starbucks a Costa.

"Yn lle hynny, mae angen hybu siopau lleol, gan eu bod yn cynnig mwy o fudd i'r gymuned, busnesau lleol a'r iaith."

Bydd grwpiau ac aelodau lleol Cymdeithas yr Iaith nawr yn mynd ati i ofyn i ymgeiswyr lleol gefnogi'r galwadau cyn yr etholiadau.  

Llun: Heledd Gwyndaf

Rhannu |