Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mawrth 2017

Penodi person lolipop ar gyfer croesfan ysgol beryglus ym Mhorthmadog

Bydd Cyngor Gwynedd yn penodi person lolipop i helpu disgyblion Ysgol Eifionydd groesi prif ffordd brysur ym Mhorthmadog a chyrraedd yr ysgol yn ddiogel.

Mae Nia Jeffreys wedi derbyn y newydd  wedi iddi ddechrau deiseb ar-lein cyn y Nadolig yn galw am groesfan ddiogel y tu allan i'r ysgol.

Ar ôl dechrau ei deiseb, ymwelodd yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am ddiogelwch y ffyrdd, Cynghorydd Dafydd Meurig, â’r ardal i weld y peryglon dros ei hun.

Mae Nia, sy'n sefyll etholiad Cyngor Gwyendd eleni fel ymgeisydd ward Dwyrain Porthmadog, wrth ei bodd gyda'r ymateb.

Meddai Nia: "Mae hyn wir yn fuddugoliaeth i bŵer y bobl, heb y ddeiseb ni fyddai'r asesiad wedi digwydd.

"O fewn dau ddiwrnod o gychwyn y ddeiseb roedd dros 100 o bobl wedi ei llofnodi.

"Mae teimladau cryf yn y dref am y peryglon y tu allan i'r ysgol.

"Mae llawer o bobl wedi fy stopio ar y stryd i ddangos eu cefnogaeth a diolch i mi am ddod â hyn i sylw y cyhoedd."

Cyfarfu Nia â phennaeth yr ysgol, Dewi Bowen, a chyflwynwyd y ddeiseb i Gyngor Gwynedd tu allan i'r ysgol.

Ychwanegodd Nia: "Drwy wahodd Dafydd Meurig i'r ysgol roedd yn gallu gweld y peryglon mae’r plant yn eu hwynebu yn ddyddiol a chynhaliwyd asesiad o'r ffordd yn fuan wedyn.

"Diolch yn fawr i'r holl bobl a lofnododd y ddeiseb.

"Mae hyn yn dangos drwy fod yn gadarnhaol a thrwy weithio gyda'n gilydd y gallwn wneud newidiadau er gwell i’n tref yma ym Mhorthmadog."

Dywedodd Jolene Barton, rhiant i ferch sy’n mynychu Ysgol Eifionydd a pherchennog busnes ym Mhorthmadog: "Mae hyn yn newyddion da iawn.

"Byddaf yn teimlo'n llawer hapusach nawr gan wybod y bydd yna berson lolipop wrth law i helpu fy merch groesi'r ffordd yn ddiogel i'r ysgol.

"Rydw i mor falch bod y ddeiseb wedi arwain at y canlyniad yma, er lles a diogelwch pobl ifanc Porthmadog."

Llun: Nia Jeffreys tu allan i Ysgol Efionydd ble bydd person lolipop newydd yn cael ei benodi

Rhannu |