Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mawrth 2017

Biosffer Dyfi yn dathlu pen-blwydd yn 40 oed

Mae'r Aelod Cynulliad dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas AC wedi llongyfarch a diolch i Fïosffer Dyfi am eu gwaith diflino wrth iddynt ddathlu 40 mlynedd.

Ar ddydd Mercher, gwnaeth AC Plaid Cymru Simon Thomas datganiad 90 eiliad ar lawr Siambr y Senedd yn annog ar Lywodraeth Cymru “i hyrwyddo Biosffer Dyfi fel enghraifft o gynhaliadwyaeth yng Nghymru sydd â statws rhyngwladol.”

Dywedodd Simon Thomas AC, Aelod y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: “Yn 40 mlwydd oed eleni, mae Biosffer Dyfi wedi bod yn un o 6 warchodfeydd biosffer cydnabyddedig UNESCO yn y Deyrnas Unedig.

"Ailenwyd ac ymestynnwyd y Biosffer yn 2009. Mae’n ymestyn o Aberystwyth i Lanbrynmair ac o Borth i Ddinas Mawddwy.

"Mae ganddo weledigaeth bendant a chlir, sef:

“Bydd Biosffer Dyfi’n cael ei gydnabod a'i barchu yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei dreftadaeth a’i fywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei bobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fyd mwy cynaliadwy. Bydd yn gymuned hyderus, iach, gofalgar a dwyieithog, gyda chefnogaeth economi gref, wedi ei gwreiddio'n lleol.

"I gwrdd â’i weledigaeth heriol a chyffrous, mae ganddo 9 brif amcan. Un ohonynt yw sicrhau 'bydd yn gymuned… dwyieithog' a 'bydd yn cael ei gydnabod a'i barchu ... [am] ei dreftadaeth'. Felly mae statws biosffer yn ymwneud â llawer mwy na'r amgylchedd - mae'n cwmpasu sefyllfa'r iaith Gymraeg o gwmpas aber Afon Dyfi.

"Hoffwn ddiolch a chymeradwyo Biosffer Dyfi am ei gwaith, nid yn unig fel platfform i ddatblygiadau cynaliadwy - ond am eu pendantrwydd ar ganoli’r iaith Gymraeg fel rhan annatod o’u gwaith.

"Rwy’n annog ar Lywodraeth Cymru i barchu a hyrwyddo’r Biosffer fel enghraifft o gynhaliadwyaeth yng Nghymru sydd â statws rhyngwladol, ac i gydweithio ag UNESCO i sicrhau ei ddyfodol.”

Rhannu |