Mwy o Newyddion
Maes gwersylla'r Eisteddfod yn prysur lenwi
Yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf fod maes carafanau’r Eisteddfod yn llawn, mae’r maes gwersylla teuluol gerllaw hefyd yn prysur lenwi.
Dim ond cant o safleoedd sydd ar ôl i’w gwerthu, felly dylai unrhyw un sy’n dymuno aros yno gysylltu cyn gynted â phosib i osgoi cael eich siomi.
Meddai Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod: “Mae’r safleoedd gwersylla wedi bod yn gwerthu’n eithriadol o gyflym dros yr wythnos ddiwethaf ers i ni gyhoeddi bod y maes carafanau’n llawn.
"Felly, os ydych am sicrhau lle i’ch pabell, gwnewch gais ar fyrder.
“Y ffordd gyflymaf i wneud cais yw ar-lein, www.eisteddfod.cymru/carafanau neu gallwch gysylltu â’r swyddfa am gopi papur o’r ffurflen, drwy ffonio 0845 4090 400. £120 yw pris gwersylla am wythnos heb drydan.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst. Bydd tocynnau ar werth o 3 Ebrill, gyda’r cynllun bargen gynnar yn rhedeg tan 30 Mehefin.
Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan. Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ewch ar-lein.
Llun: Elfed Roberts