Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Mawrth 2017

Gogledd Cymru i lwyfannu gŵyl awyr agored fawr newydd yn Y Bala

Bydd gŵyl awyr agored newydd o bwys sy’n cyfuno chwaraeon antur a cherddoriaeth fyw yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru yr haf hwn.

Bydd Gŵyl Awyr Agored Eryri yn cael ei chynnal ar lannau hardd Llyn Tegid yn y Bala ar benwythnos Awst 11 a 12, ac mae disgwyl y bydd hyd at 10,000 o bobl yn cael eu denu yno.

Yn ôl y trefnwyr, dyma oedd y lleoliad perffaith ar gyfer y digwyddiad oherwydd mae Gogledd Cymru eisoes wedi ennill enw da fel prif gyrchfan antur Ewrop, ac wedi cael ei henwi ymhlith y llefydd gorau yn y byd ar gyfer ymwelwyr yn rhestr flynyddol Lonely Planet, ‘Best in Travel’ 2017.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 10 erw o dir Fferm Gwern Hefin a’r bobl sydd tu ôl i’r datblygiad cyffrous yma yw’r trefnwyr digwyddiadau byw Brand Events, sef y cwmni sy’n gyfrifol am ddigwyddiad hynod lwyddiannus Gŵyl Mynydd Keswick, a fydd yn cael ei chynnal am yr unfed tro ar ddeg ym mis Mehefin eleni.

Mae Brand Events hefyd yn ymwneud â sioeau ceir, bwyd a chrefftau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ac sy’n cynnwys ymddangosiadau gan sêr fel y cyflwynydd radio a theledu Chris Evans, y cogydd enwog Tom Kerridge, a brenhines tai a chrefftau llaw Kirstie Allsopp.

Mae’r digwyddiad newydd wedi cael ei groesawu gan Gymdeithas Busnes y Bala a dywedodd is-gadeirydd y Gymdeithas Heledd Roberts, sy’n rhedeg busnes ffotograffiaeth yn y dref: “Byddem yn bendant yn croesawu digwyddiad fel hwn a fydd yn rhoi hwb i’r economi leol.

“Bydd sgîl effaith yr ŵyl yn bwysig hefyd gan y bydd yn rhoi’r Bala ar y map unwaith eto, ac mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol oherwydd nid oes gennym unrhyw swyddfeydd twristiaeth yn y sir.

“Oherwydd ein bod wedi ein hamgylchynu gan fynyddoedd a dŵr mae’r math yma o ŵyl yn berffaith.

“Mae gennym y llyn naturiol mwyaf yn y wlad ar garreg ein drws, mae gennym fynyddoedd a golygfeydd godidog, llwybrau troed a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr mynydd a’r cyfan mewn amgylchedd cwbl naturiol.

“Mae hefyd yn bwysig ei fod yn dathlu Cymru a’r iaith Gymraeg gan mai dyna yw diwylliant naturiol yr ardal ac mae ymwelwyr yn mwynhau’r profiad hynny hefyd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Brand Events, Nicola Meadley: “Mae Keswick wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi dangos bod galw mawr am y math hwn o ŵyl awyr agored sy’n addas i deuluoedd.

“Roeddem yn chwilio am y lle iawn i lwyfannu rhywbeth tebyg ac roedd Y Bala yn ddewis perffaith.

“Mae’r dref wedi ei lleoli yn Eryri gyda golygfeydd godidog ar lannau’r llyn, felly mae’n gallu darparu ar gyfer amrywiaeth eang o chwaraeon awyr agored, mae yma fynediad hwylus, cyfleusterau gwych, amrywiaeth o lety ac enw da am lwyfannu digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn llwyddiannus iawn.

“Mae hefyd yn lle cynnes a chroesawgar sy’n cynnig profiad diwylliannol gwirioneddol i ymwelwyr, ac rydym wedi ymdrechu’n galed iawn i fod yn sensitif ac ymatebol i iaith a diwylliant yr ardal.”

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar dir Fferm Gwern Hefin, yn agos at Ganolfan Gweithgareddau Awyr Agored Glan-llyn yr Urdd, a lleolir safle’r ŵyl oddi ar briffordd yr A494 o’r Bala i Ddolgellau gyda phrif faes lle gosodir y llwyfan a lle bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal, yn ogystal â mannau gwersylla a meysydd parcio.

Mae’r trefnwyr yn disgwyl 5,000 o bobl bob dydd i fynychu’r ŵyl, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn gwersylla dros y penwythnos, a bwriedir cynnal rhaglen o gystadlaethau chwaraeon awyr agored a sesiynau blasu a cherddoriaeth fyw o’r prynhawn tan 10.30yh.

Bydd gwersyllwyr yn cyrraedd ar ddydd Gwener, Awst 11, a bydd arlwyo ar gael yn ogystal â siaradwyr a gweithgareddau blasu cyn i’r ŵyl fwrw iddi go iawn dros y dydd Sadwrn a’r dydd Sul.

Bydd y digwyddiadau chwaraeon yn cynnwys rhedeg llwybrau dros bellteroedd o dri i 25 cilometr, nofio dŵr agored ar y llyn, rasys beicio mynydd, a sportive - ras feiciau i bawb - a digwyddiad rhedeg-nofio.

Bydd enwau’r artistiaid cerddorol yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, ond mae prif berfformwyr Gŵyl Mynydd Keswick wedi cynnwys KT Tunstall a Scouting for Girls, y rocwyr gwerin poblogaidd y Peatbog Faeries, a bandiau fel Toploader a Bjorn Again, felly mae’r disgwyliadau yn uchel.

Bydd gweithgareddau awyr agored yn cael eu trefnu ar y safle ac oddi ar y safle, a bydd y rhain yn cynnwys heicio, canŵio, byrddio padlo, nofio, dringo, beicio mynydd gyda waliau dringo a bagiau aer yn cael eu codi, ynghyd â sgyrsiau ar fyw yn y gwyllt a bydd gweithgareddau ymarferol hefyd ar gael.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio denu hyd at 3,500 o wersyllwyr i aros ar y safle, gyda chymaint â 1500 o bobl yn mynychu bob dydd fydd yn aros neu’n byw yn lleol.

Bydd tocynnau hefyd yn mynd ar werth ar ddiwedd y mis gyda gostyngiadau arbennig i drigolion lleol.

Pris tocyn gwersylla penwythnos i deulu fydd £295, gyda thocynnau unigol ar gael am £120 i oedolion a £55 i blant. Bydd tocynnau diwrnod ar gyfer oedolion a phlant lleol ar gael am bris arbennig o £35 a £14 a fydd ar gael o siopau yn y Bala – rhoddir manylion llawn am y tocynnau hyn ar y wefan.

Ychwanegodd Nicola Meadley: “Mae Gŵyl Mynydd Keswick wedi bod yn mynd ers deng mlynedd ac wedi bod yn hynod lwyddiannus, a dyma’r model rydym am geisio ei efelychu yma.

“Rydym eisiau adeiladu gwyliau a fydd yn eang eu hapêl ac yn dod â budd parhaol i’r ardaloedd lle maent yn cael eu cynnal. Rydym hefyd yn awyddus i weithio gyda chyflenwyr a darparwyr gweithgareddau a llety lleol er mwyn sefydlu’r digwyddiad fel rhan o galendr gwyliau eiconig y Deyrnas Unedig.”

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan neu dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am docynnau a chynigion arbennig gofrestru i dderbyn cylchlythyr yr Ŵyl yn www.snowdonia-outdoorfestival.co.uk

Yn y llun ar safle Gŵyl Awyr Agored Eryri ger y Bala yr haf hwn gwelir, o’r chwith, Heledd Roberts, is-gadeirydd Grŵp Busnes Y Bala, Richard Wynne Roberts, Cymdeithas Twristiaeth Y Bala, a Lisa Knipe, Rheolwr Gweithrediadau Brand Events.

Rhannu |