Mwy o Newyddion
Bwrdd Iechyd yn gweithio i gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg
Mae swyddogion iechyd yn gweithio gyda meddygon teulu, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar draws Gogledd Cymru i'w helpu i gyflwyno gwasanaethau yn Gymraeg.
Mae Menter Iaith Bangor yn gweithio gydag Uned Iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar draws Gwynedd a Môn.
Nid yw darparwyr gofal cychwynnol fel optegwyr, meddygon teulu, deintyddion a fferyllwyr wedi'u rhwymo gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 gan mai contractwyr annibynnol ydynt.
Mae BIPBC, sydd wedi'i rwymo gan y ddeddfwriaeth, wedi mabwysiadu'r egwyddor y dylai'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin 'ar y sail eu bod yn gyfartal' wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tîm o Swyddogion Iaith a Chyfieithwyr sy'n ymweld â phractisau unigol i drafod y manteision sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau'n ddwyieithog.
Mae Uned yr Iaith Gymraeg hefyd yn gweithio gyda Menter Iaith Bangor i gynorthwyo ac annog mabwysiadu egwyddor y Ddeddf ar draws ystod eang o leoliadau gofal cychwynnol, gan ddarparu gwasanaethau cyfieithu'n rhad ac am ddim, posteri dwyieithog, templedi llythyrau, adnoddau dysgu iaith yn gyflym ar ffurf CDs a chardiau cyfarch dwyieithog ar gyfer derbynfeydd.
Mae gweithdai eisoes wedi'u cynnal ym Mangor - lle mae pedwar ym mhob deg o bobl yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf - ac mae'r sefydliadau'n paratoi i gynnal digwyddiadau newydd ar draws Môn ac Arfon.
Dywedodd Eleri Hughes-Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BIPBC fod achos busnes gwirioneddol dros gynnig gwasanaethau gofal cychwynnol yn Gymraeg.
“Mae gwir angen gwneud hyn. I ganran fawr o gleifion, mae eu pwynt cyswllt cyntaf gyda darparwr gofal cychwynnol. Rydym ni fel Bwrdd Iechyd yn teimlo bod dyletswydd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar gyfer cleifion Cymraeg eu hiaith, boed hynny mewn gofal cychwynnol neu ofal eilaidd", meddai.
“Mae'r darparwyr wedi ymateb yn bositif i'r gwaith. Nid yn unig mae'n arfer da ond mae hefyd yn gyfle busnes da i optegwyr a deintyddion wella eu darpariaeth Gymraeg gan ei fod yn gyfle iddyn nhw gynyddu eu hystod o gleientiaid.
"Mae darparu gofal dwyieithog yn bwysig i'r Bwrdd Iechyd, sy'n mynd y tu hwnt i'w ddyletswyddau statudol i hybu gwasanaethau dwyieithog mewn modd rhagweithiol ar draws yr holl bractisau iechyd.
“Mae rhai pobl, yn enwedig pobl hŷn sy'n siarad Cymraeg fel arfer yn eu bywydau o ddydd i ddydd, yn teimlo'n agored i niwed trwy orfod esbonio rhywbeth yn yr hyn sy'n ail iaith iddyn nhw, i bob pwrpas. Gall fod yn eithriadol o anodd.
“Mae cymunedau ar draws Gogledd Cymru lle mae cryn dipyn o'r boblogaeth hŷn yn siarad Cymraeg. Maen nhw eisoes yn agored i niwed gan fod angen iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau iechyd ac mae rhwystrau iaith ond yn ychwanegu at yr ymdeimlad o fod yn agored i niwed."
Mae'r Bwrdd Iechyd a Menter Iaith Bangor wedi sefydlu partneriaeth waith â Chanolfan Feddygol Bron Derw ar Ffordd Glynne, Bangor, yn helpu'r practis i ddarparu gohebiaeth ddwyieithog ar gyfer ei gleifion.
Maen nhw hefyd yn gweithio gyda Chanolfan Feddygol Bodnant yn Rhodfa Menai, Bangor, sy'n darparu gwasanaethau iechyd i fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn ogystal â'r gymuned ehangach.
Dywedodd y meddyg teulu, Dr Catrin Elis Williams, o Ganolfan Feddygol Bodnant: “Fel darparwyr gofal iechyd, mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn sgil hollbwysig i ni. Mae llawer o'n cleifion yn dweud ei bod yn haws o lawer esbonio eu pryderon a'u gofidiau yn Gymraeg yn hytrach nag mewn ail iaith.
"Gall materion pwysig 'fynd ar gyfeiliorn' wrth gyfieithu ac rydym ni'n ymfalchïo yn ein gallu i ddarparu gwasanaeth sy'n diwallu anghenion ein cleifion Cymraeg eu hiaith."
Ychwanegodd swyddog datblygu Menter Iaith Bangor, Dylan Bryn Roberts: "Rydym ni eisiau codi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod cynifer o bobl ym Mangor a'r cyffiniau'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, ac o ystyried bod y rhai sy'n chwilio am wasanaeth gofal cychwynnol fwy na thebyg yn teimlo'n eithaf agored i niwed yn barod, rydym ni'n teimlo bod hyn yn waith pwysig.
“Gall plant, pobl hŷn, y rhai ag anableddau a chyfran fawr o siaradwyr Cymraeg ei chael hi'n anodd iawn mynegi eu hunain cystal mewn ail iaith na fyddan nhw, o bosibl, yn teimlo'n gwbl gyfforddus ynddi, felly rydym ni'n ceisio sicrhau bod darparwyr gofal cychwynnol yn ymwybodol o hynny ac i gynllunio darpariaeth yn y dyfodol gan ystyried y Gymraeg yn rhan o'r ddarpariaeth honno.
"Mae ein gwaith gydag amrywiaeth o ddarparwyr gofal iechyd cychwynnol yn dwyn ffrwyth, y canlyniad cyntaf yn hyn o beth yw gwerthfawrogiad a dealltwriaeth ehangach am bwysigrwydd galluogi cleifion a'u teuluoedd i sgwrsio â gweithwyr proffesiynol yn eu dewis iaith ac mae hyn wrth wraidd gofal iechyd o ansawdd da yng Nghymru.
"Mae creu hunaniaeth sy’n fwyfwy dwyieithog a helpu'r staff i fagu hyder o ran y Gymraeg yn y gweithle yn gam hollbwysig ymlaen o ran gwella arfer gorau yn y sector.
"Mae Menter Iaith Bangor yn falch o allu gweithio mewn partneriaeth â'r darparwyr hyn er lles pennaf holl drigolion Bangor."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwbl ymrwymedig i gyflawni Safonau'r Gymraeg newydd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac i adeiladu ar yr arfer gorau presennol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnig yn Gymraeg mewn modd rhagweithiol yn unol â Fframwaith Llywodraeth Cymru; Mwy na Geiriau.
Llun: Eleri Hughes-Jones, Dylan Bryn Roberts a Dr Catrin Elis Williams