Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2017

Adolygiad cyflym o gynlluniau addysg Gymraeg

Mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi cyhoeddi bod Aled Roberts wedi cael ei benodi i gynnal adolygiad cyflym o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi'u llunio gan Awdurdodau Lleol.

Bydd hyn yn digwydd ar unwaith.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Weinidogion Cymru eu hystyried.

Rhaid i'r cynlluniau osod targedau heriol ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.

Cymdeithas yr Iaith yn croesawu cynlluniau addysg Gymraeg

Hefyd, rhaid i'r cynlluniau ddangos camau gweithredu clir i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae Gweinidog y Gymraeg bob amser wedi dweud yn glir ei fod yn disgwyl gweld cynlluniau cryf ac uchelgeisiol.

Yn gynharach heddiw, dywedodd Alun Davies wrth Aelodau'r Cynulliad: “Yr adolygiad cyflym hwn fydd y cam cyntaf o ran newid pethau.

"Gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad hwn, rhaid i unrhyw waith rydym yn ei ddatblygu yn y dyfodol gynnwys y bobl hynny sy'n darparu addysg ar lawr gwlad – athrawon, llywodraethwyr, penaethiaid, a staff cymorth – y rheini a fydd yn chwarae rhan sylweddol er mwyn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Bydd y camau rydym yn eu cymryd nawr yn dylanwadu ar siaradwyr Cymraeg y dyfodol. 

"Pwy bynnag sy'n gwneud fy swydd i yn 2050, dwi am iddo fe neu iddi hi edrych yn ôl ar yr adeg hon fel cyfnod o newid, y sbardun a wnaeth wahaniaeth go iawn i'r iaith a'i siaradwyr.

“Bydd Aled yn dod â phrofiad sylweddol a llygaid craff i'r rôl hon.

"Fel cyfreithiwr, cyn-arweinydd awdurdod lleol, llywodraethwr ysgol ac wrth gwrs, cyn-Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol, mae gan Aled y cefndir a'r profiad sydd eu hangen er mwyn dadansoddi'r rhesymau pam nad yw cynllunio ar gyfer y Gymraeg mor effeithiol ag y dylai fod.

“Bydd yn creu cyfres o argymhellion i symud ymlaen â'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

"Rhaid i'r argymhellion osod cyfeiriad clir i mi ar gyfer newid.

"Bydd dull cydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn ystod y cyfnod hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

"Dwi am i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru gyfrannu at yr adolygiad hwn.”

Llun: Aled Roberts

 

Rhannu |