Mwy o Newyddion
'Peidiwch â gadael dyfodol Cymru yn nwylo Torïaid San Steffan' - Leanne Wood
Defnyddiodd Leanne Wood Gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw i herio'r Llywodraeth Lafur i amlinellu cynllun ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol ac economaidd i Gymru yn sgil refferendwm posib ar annibyniaeth i'r Alban.
Gofynnodd AC Rhondda i Arweinydd y Tŷ amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer ble fydd Cymru ymhen dwy flynedd.
Wrth siarad ddiwrnod ar ôl ei galwad am "ddadl genedlaethol ar ddyfodol Cymru", cyhuddodd Arweinydd Plaid Cymru y Llywodraeth Lafur o gynnig ymateb i'r cyhoeddiad am y refferendwm oedd "yn brin o fanylder" ac "yn dweud prin ddim am ddyfodol Cymru."
Yn flaenorol, roedd Prif Weinidog Cymru wedi rhyddhau datganiad dwy frawddeg mewn ymateb i gyhoeddiad yr Alban, yn groes i alwad Plaid Cymru am archwilio pob opsiwn posib ar gyfer dyfodol Cymru.
Dywedodd Leanne Wood: "Rhyddhaodd Llywodraeth Lafur Cymru ddatganiad pitw, dwy frawddeg mewn ymateb i'r cyhoeddiad ar refferendwm i'r Alban.
"Nid yw datganiadau sy'n brin o fanylder ac yn dweud prin ddim am ddyfodol Cymru yn ddigon da.
"Rhaid i'r llywodraeth lunio cynlluniau manwl ar sut i ymateb i'r cwestiwn hollbwysig hwn fydd yn cael effaith ar y DG gyfan.
"Mae ar Gymru angen llywodraeth gyda gweledigaeth a chynllun ar gyfer ble fydd Cymru mewn dwy flynedd.
"Rydym angen dadl genedlaethol ystyrlon am yr hyn fydd yn digwydd i Gymru os fydd yr Alban yn dewis gadael y DG.
"Ar hyn o bryd mae gan economi Gymru weddill fasnachol o £2.2bn gyda'r farchnad sengl Ewropeaidd.
"Mae tua 200,000 o swyddi Cymreig ynghlwm a'r farchnad hon.
"Rhaid i ni ddefnyddio pob arf posib i atal 'Brexit caled' fyddai'n peryglu'r rhain.
"Yn y tymor byr, mae Plaid Cymru eisiau i'r Llywodraeth Lafur weithredu'n gadarn i ddylanwadu llythyr Erthygl 50 a sicrhau fod buddiannau Cymru'n cael eu gwarchod.
"Mae yna lygedyn o gyfle fan hyn, ac os nad yw Llafur yn ei gipio yna byddant yn gadael ein dyfodol yn nwylo Torïaid San Steffan."