Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2017

Agor Ffordd Gyswllt Llangefni yn swyddogol

Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seiwaith ar Ynys Môn ddydd Mawrth yr wythnos yma i agor dwy ran gyntaf Ffordd Gyswllt Llangefni yn swyddogol. 

Mae’r prosiect gwerth £4 miliwn wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo-Menai a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

Bydd y ffordd gyswllt newydd yn caniatáu yr ehangu mawr i gampws Llangefni o Goleg Menai, Grŵp Llandrillo Menai, a pan fydd wedi’i gwblhau bydd yn mynd o gyffordd yr A5114 gydag Ystâd Diwydiannol Llangefni, gan fynd o amgylch de a dwyrain y dref cyn croesi’r  B5420 a chysylltu â safle Coleg Menai, gan liniaru’r traffig yng nghanol y dref.

Meddai Ken Skates: “Rwy’n falch iawn o agor dwy ran gyntaf y ffordd gyswllt hon, sy’n ganlyniad cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Grŵp Llandrillo-Menai a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear er lles cymunedau lleol a’r diwydiant. 

“Rwyf wedi datgan yn glir bod system drafnidiaeth gysylltiedig o safon uchel yn allweddol er mwyn sicrhau twf economaidd yng Ngogledd Cymru, ac mae’r ffordd gyswllt hon yn enghraifft wych.

"Bydd yn rhoi y cysylltiadau sydd eu hangen o ran y drafnidiaeth i sicrhau yr ehangu sylweddol i Goleg Menai yn Llangefni, gan olygu y bydd modd darparu yr addysg a’r hyfforddiant o safon uchel fydd yn caniatáu i bobl gael y swyddi a ddaw o ddatblygiadau newydd a’r twf economaidd yn yr ardal. 

“Rhoddais amlinelliad yn ddiweddar o brosiectau seilwaith oedd yn werth dros £600 miliwn ledled Gogledd Cymru dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf wrth inni barhau i gydweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ddarparu rhwydwaith drafnidiaeth integredig sy’n cysylltu cymunedau a busnesau â swyddi a gwasanaethau yn well, gan osod y sylfeini am Gymru mwy llewyrchus.” 

Ychwanegodd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Môn sy’n gyfrifol am y portffolio Prosiectau Mawr: “Mae’r Ffordd Gyswllt yn enghraifft wych o sut y gall gwelliannau i’r seilwaith alluogi twf economaidd a bod yn gatalydd ar ei gyfer.

"Bydd y prosiect hwn yn caniatáu i Gampws Llangefni o Goleg Menai Grŵp Llandrillo Menai ehangu a chynnig ystod amrywiol o hyfforddiant a sgiliau sy’n gysylltiedig â datblygiadau arfaethedig mawr ym maes ynni ar yr ynys.

"Mae hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein hymdrechion i ddatblygu Llangefni a chyflawni ei photensial fel canolfan strategol ar gyfer gwaith ac addysg ar gyfer y rhanbarth yn ehangach.  

“Mae’r datblygiad hwn yn ychwanegu gwerth ac yn ategu’r weledigaeth ar gyfer Ardal Fenter Ynys Môn a gweledigaeth y Rhaglen Ynys Ynni i greu canolfan o ragoriaeth o safon fyd-eang ar gyfer ynni carbon isel.” 

Ychwanegodd Dafydd Evans, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai: “Bydd y ffordd gyswllt newydd yn llawer o help i gefnogi datblygiadau sy’n gysylltiedig â’r Ynys Ynni. Datblygiadau a fydd yn eu tro yn dod â gwaith o safon y mae angen mawr amdano yn yr ardal. 

“Mae gan Goleg Menai swyddogaeth allweddol o sicrhau bod gan y bobl leol, yn enwedig y rhai hynny sy’n hyfforddi ar gyfer y gweithle ar hyn o bryd, y sgiliau a’r profiad y maent eu hangen i gystadlu am swyddi o safon yn yr ardal.  Mantais arall y ffordd newydd yw y bydd, wrth gwrs yn gwneud y Safle Peirianneg newydd ar ein campws yn Llangefni yn bosibl.”
 

Rhannu |