Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2017

Cymeradwyo hwb ariannol mawr i Gaernarfon

Ymwelodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, â Chaernarfon i gyhoeddi bod menter Adfywio Glannau a Chanol Tref Caernarfon wedi cymryd cam arall ymlaen ar ôl i werth £2.5m o arian Ewropeaidd gael ei gymeradwyo gan sbarduno rhaglen fuddsoddi gwerth £14 miliwn.

Mae’r datblygiadau yng Nghaernarfon yn rhan o raglen Cyrchfan Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

Yr UE sy’n ariannu’r rhaglen a  Croeso Cymru yn ei harwain, a’r nod yw creu 11 o gyrchfannau ‘rhaid eu gweld’ trwy’r wlad. 

Bydd y prosiect yn cryfhau statws y dref fel cyrchfan eiconig gan ddathlu cryfderau diwylliannol a hanesyddol eithriadol yr ardal.

Fel rhan o’r prosiect, y bwriad yw gweddnewid gorsaf Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn y dref.

Gan ddenu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, mae’n borth allweddol i Gaernarfon a bydd y prosiect yn cyfoethogi profiad yr ymwelydd ac yn creu cyfleoedd i gysylltu’r orsaf â chanol y dref.

Bydd ail ran y prosiect yn gwella’r Galeri ac ehangu’r dewis o gyfleusterau sydd gan Gaernarfon i’w cynnig i’r nifer cynyddol o ymwelwyr â’r dref – gan gynnwys opsiynau tywydd gwlyb.

Bydd y gwaith yn golygu estyn y Galeri i gynnwys cyfleusterau sinema, swyddfeydd a lle i gynnal gwaith creadigol.

Bydd gwaith yn cael ei gynnal hefyd i sicrhau bod y cysylltiad rhwng tri safle allweddol o fewn y dref yn cael ei wella fel bod ymwelwyr yn gallu mynd a dod o’r Castell, Terminws y Rheilffordd a Safle’r Ynys yn rhwydd a hwylus.

Bydd cymeradwyo’r arian hwn yn sbarduno gwerth £14 miliwn o fuddsoddiad trwy’r rhaglen adfywio twristiaeth.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyllid o’r sector preifat yn ogystal ag arian cyhoeddus oddi wrth Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r prosiect ehangach yn  cynnwys gwaith i ailddatblygu ‘Safle’r Ynys’ ger y Castell yn ddatblygiad cymysg o eiddo busnes, atyniadau i ymwelwyr a gweithdai a lleoedd creadigol.  Cyngor Gwynedd fydd yn arwain y prosiect.

Bydd rhaglen arall o dan ofal Cadw yn cael ei chyflwyno hefyd ar gyfer ei chymeradwyo fel rhan o Raglen Cyrchfan Denu Twristiaeth yr ERDF.

Ei nod fydd adfer ac addasu asedau hanesyddol pwysig wrth fynedfa Castell Caernarfon, Porth y Brenin, gan gynnwys gwelliannau sylweddol i’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr i atgyfnerthu a datblygu statws y castell fel atyniad o fri rhyngwladol.

Dywedodd Ken Skates: “Mae’n dda iawn gen i gyhoeddi’r arian hwn er mwyn helpu Caernarfon i ddatblygu i fod y gyrchfan eiconig y mae’n teilyngu bod ar sail cyfoeth ei threftadaeth ac asedau diwylliannol.

"Ein hamcan trwy’r rhaglen Cyrchfan Denu Ymwelwyr yw canolbwyntio’n hymdrechion a’n prosiectau buddsoddi ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol hon.” 

Llun: Ken Skates yng Nghaernarfon

Rhannu |