Mwy o Newyddion
Teyrnged i frawd mawr
Talodd y gwleidydd a’r canwr Dafydd Iwan deyrnged i'w frawd mawr Huw Ceredig fu farw yr wythnos yma yn 69 oed wedi salwch hir.
Meddai: “Wrth geisio rhoi gair neu ddau at ei gilydd am frawd a gollwyd, mae’n amhosib bod yn wrthrychol.
“Roedd Huw Ceredig yn frawd i mi, yn gwmni difyr, bob amser yn barod ei farn, a honno’n farn bendant.
“Roedd y cyfryngau odani’n amal, ac Undeb Rygbi Cymru, ac ambell i wleidydd ac ambell i reolwr rygbi anffodus yn ei chael hi nes oedd e’n tincian.
“Ond roedd digonedd o hwyl hefyd, ac atgofion brith.
“Ei hoff bethau oedd ei deulu a’i ardd, Cymru a’r Gymraeg, Man U, a’r bwci, a Symi a’r haul.
“Bydd sawl un yn gweld ei golli, colli’r cwmni ffraeth a’r straeon yn fwy na dim, a hynny yma yng Nghymru ac ar Ynys Symi.
“Ond efallai mai cyfraniad mwyaf Huw oedd pontio rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg.
“Iddo fe, doedd dim problem, roedd yn troi ymhlith ei gymdogion di-Gymraeg yr un mor rhwydd a’i gyfeillion Cymraeg; a’r un oedd Huw Ceredig iddyn nhw i gyd: Cymro naturiol twymgalon oedd yn caru’i wlad ac yn caru bywyd – ac yn mynnu byw y bywyd hwnnw i’r ymylon eithaf.
“Huw – diolch am yr hwyl, diolch am y tocynnau, ac am gael aros yn y fflat. A ffarwel, am y tro.”
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA