Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2017

Cymru gyda’r gorau yn y byd am ailgylchu

Yn ôl adroddiad newydd mae Cymru yn hawlio’r trydydd safle ymysg cenhedloedd y byd am ailgylchu.

Mae’r adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos yma gan Resource yn gosod Cymru tu ôl i’r Almaen a Taiwan yn unig am ailgylchu trefol.

Mae Cymru yn yr ail safle dros Ewrop gyfan, yn dilyn yn agos tu ôl i’r Almaen.

Er bod yr adroddiad yn nodi anhawster cymharu gwledydd, mae’n disgrifio Cymru fel arweinwyr byd o ran buddsoddi ac arweinyddiaeth wleidyddol.

Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r pwyslais mae Llywodraeth Cymru wedi’i gosod ar gyfraddau ailgylchu a bydd hyd at £3 miliwn yn cael ei roi i wyth Awdurdod Lleol yng Nghymru i’w helpu i ailgylchu mwy o wastraff.

Bydd y cyllid yn helpu'r Awdurdodau Lleol a ddewiswyd i ddiweddaru eu dulliau ailgylchu, i gynyddu eu cyfraddau ailgylchu, creu swyddi newydd o bosib, a gwella gwerth am arian. Bydd yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru offer ailgylchu, darparu cerbydau ailgylchu newydd a chefnogi'r gwaith o adeiladu Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Drenewydd.

Mae’r ffigurau chwarter a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn dangos bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU.

Gyda’r ffigurau 12 mis i fis Medi 2016 yn dangos mai cyfartaledd y gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio dros 22 Awdurdod Lleol Cymru yw 62%. Mae hyn yn gynnydd o bedwar pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Mae Cymru bellach yn ailgylchu ddwywaith cymaint nag yr oedd ddegawd yn ôl ac mae'n parhau i gael ei defnyddio fel enghraifft o arfer da i wledydd eraill y DU.

Bydd y cyllid yn cael ei ddyfarnu i:

  • Sir Fôn,
  • Blaenau Gwent,
  • Sir y Fflint,
  • Powys,
  • Rhondda Cynon Taf,
  • Abertawe,
  • Bro Morgannwg,
  • Wrecsam

drwy Raglen Newid Gydweithredol Llywodraeth Cymru.

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yr ystadegau ailgylchu diweddaraf a chyhoeddodd y cymorth ariannol sydd ar gael i'r Awdurdodau Lleol.

Dywedodd: “Mae’n newyddion gwych ein bod ni’n cyrraedd at y brig ac yn destament i ymdrechion parhaus Awdurdodau Lleol ac ymrwymiad deiliaid tai i ailgylchu.

"Nid yw wedi bod yn hawdd, ond rydym wedi gwneud newidiadau mawr ac rydym bellach yn ailgylchu ddwywaith cymaint o wastraff nag yr oeddem ddegawd yn ôl.

"Rydym yn gwneud cynnydd gwych, gyda'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos ein bod yn gwneud yn well na'r targed ailgylchu presennol o 58% a nodwyd yn ein strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff.

"Rwy'n falch ein bod yn darparu hyd at £3 miliwn i gefnogi Awdurdodau Lleol i wneud gwelliannau fydd yn helpu i wella cyfraddau ailgylchu ymhellach a chefnogi ein huchelgais i fod y wlad sy'n ailgylchu fwyaf yn y byd."

Rhannu |