Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mawrth 2017

Cynllun solar artistig yn cael ei enwi ymysg y gorau yn y byd

MAE cynllun ynni solar yng Ngogledd Cymru wedi cael ei ganmol fel un o’r gorau yn y byd – ochr yn ochr â phrosiectau mewn maes awyr rhyngwladol yn yr India ac anialwch y Sahara.

Cafodd y rhesi o 175 panel solar eu gosod yng Ngardd Bodnant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nyffryn Conwy gan gwmni Zero Carbon Renewables o Lanelwy, ac yn awr maent wedi eu cynnwys ar rhestr o bum prosiect ynni haul gorau’r byd.

Trefnwyd y paneli solar modern i gyd-fynd â  thirwedd y graig uwchben maes parcio yr atyniad poblogaidd i ymwelwyr.

Mae’r paneli solar yn cynhyrchu 50 cilowat sy’n cael ei ddefnyddio i ddarparu ynni ar gyfer  ystafell de Y Pafiliwn ar waelod y prif faes parcio ac ynni hefyd ar gyfer dau bwynt gwefru car trydan.

Mae’r gosodiad paneli wedi profi’n boblogaidd iawn ymysg ymwelwyr Gardd Bodnant ac mae hefyd wedi cael ei ddisgrifio fel “gwaith celf fodern” gan wefan amgylcheddol adnabyddus, Edie.net

Lluniwyd y rhestr o’r pum prosiect solar rhyngwladol nodedig gan yr arbenigwyr ynni gwyrdd, Geo, sydd wedi eu lleoli yng Nghaergrawnt.

Roedd y pedwar arall yn y rownd derfynol yn cynnwys:

  • Fferm solar arnofio mwyaf y byd yng Nghronfa Ddŵr y Frenhines Elisabeth yn Llundain
  • Maes Awyr Rhyngwladol Cochin yn Kerala, India, sy’n cynhyrchu ei holl ynni ei hun trwy gyfarpar solar 12 MW a adeiladwyd dros y derfynell cargo
  • Prosiect Coedwig Sahara sy’n harneisio ynni’r haul er mwyn darparu dŵr ffres, bwyd a swyddi gwyrdd mewn ardal a fyddai fel arall yn rhan anghysbell o’r anialwch
  • Fferm solar sy’n defnyddio 48,000 o baneli haul i ddarparu pŵer i Walt Disney World yn Florida

Mae menter Gardd Bodnant yn rhan o ymgyrch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i leihau eu defnydd cyffredinol o ynni 20 y cant erbyn 2020 ac i ddefnyddio technolegau adnewyddadwy er mwyn sicrhau lleihad 50 y cant o leiaf yn nefnydd yr Ymddiriedolaeth o danwydd carbon.

Talodd Paul Southall, ymgynghorydd amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, deyrnged i waith ei gydweithiwr, Alexander Turrell, wrth helpu i ddylunio’r rhesi paneli solar a rheoli’r prosiect.

Dywedodd Paul: “Yr hyn rydym wedi ei wneud yma yw defnyddio gofod nad oes modd ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall, gan ei fod yn dir creigiog iawn.

“Yn ymarferol nid ydym yn colli unrhyw lefydd parcio ac rydym hefyd wedi creu rheswm arall i bobl ymweld â ni.

“Mae’r ffordd y mae’r paneli solar yn gwau eu ffordd ar hyd y dirwedd yn wych ac mae’r ymateb rydym wedi ei gael gan ymwelwyr wedi bod yn rhyfeddol.

“Mae’n ateb perffaith i Bodnant oherwydd mae’r rhan fwyaf o’n hymwelwyr yn dod yma pan fo’r haul yn tywynnu, a dyna pryd rydym yn defnyddio llawer o’n trydan.

“Mae’r holl drydan a gynhyrchir gan y paneli solar yn cael ei ddefnyddio ar y safle ac mae’n lleihau ôl-troed carbon Gardd Bodnant yn sylweddol.”

Roedd pennaeth Carbon Zero, Gareth Jones, wrth ei fodd bod y prosiect wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.

Meddai: “Rwy’n hapus iawn. Mae’n brosiect blaenllaw iawn i ni ac mae’n wych ei fod yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad mor arbennig â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

“Roedd yn waith eithaf anodd ac nid wyf yn credu fod yna lawer o gwmnïau yn y DU a allai fod wedi cyflawni’r gwaith – mae fy nghefndir mewn peirianneg sifil ac mae fy sgiliau yn y sector solar wedi bod yn hanfodol.

“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel ac mae pobl wrth eu boddau efo’r ffaith eich bod yn gallu bod yn wahanol gyda solar. Nid oes rhaid gosod y paneli ar fframiau dur traddodiadol mewn caeau, ac ar doeon.

“Yma yng Ngardd Bodnant gyda chleient blaengar, rydym wedi dangos y gallwch wneud rhywbeth arbennig iawn.

“Mae’r prosiect hwn yn unigryw a disgrifiodd un gwefan amgylcheddol amlwg y lle fel celf fodern solar.

“Nid yn unig y mae’n edrych yn hardd, mae hefyd yn ymarferol iawn ac mae hynny’n gyfuniad gwych. Rwy’n falch iawn o’r hyn rydym wedi ei gyflawni.”

Llun: Pennaeth Carbon Zero Gareth Jones gyda Paul Southall o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Rhannu |