Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mawrth 2017

Galwadau o'r newydd i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru

Mae galwadau o'r newydd wedi eu gwneud gan wleidyddion lleol ac arweinwyr academaidd i Lywodraeth San Steffan osod dyddiad pendant i drydaneiddio Rheilffordd gogledd Cymru rhwng Caergybi a Crewe.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams yn dadlau ei bod yn hen bryd i'r llywodraeth symud ymlaen a thrydaneiddio’r llwybr 135km, gan ddatgan fod teithwyr yng ngogledd Cymru yn dwyn baich ‘diffyg penderfyniad ac addewidion ffug’ y llywodraeth.

Mae galwadau Mr Williams wedi cael eu hategu gan Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, sydd wedi galw am welliant 'cyflym a sylweddol' i wasanaethau ar hyd arfordir gogledd Cymru.

Dywedodd Hywel Williams: “Rwyf wedi pwyso’r llywodraeth droeon i drydaneiddio rheilffordd y gogledd.

"Hyd yma, mae llywodraethau olynol wedi osgoi'r mater, ar draul pobl gogledd Cymru sy'n dwyn baich gwamalu gwleidyddol.

“Mewn termau ymarferol, mae trydaneiddio’r lein rhwng Crewe a Chaergybi yn gwneud synnwyr.

"Ar hyn o bryd, mae trenau sy’n teithio rhwng Llundain a Crewe yn teithio ddwywaith mor gyflym a threnau rhwng Crewe a Chaergybi.

“Nid yw’n dderbyniol bod teithwyr sy’n croesi’r ffîn i Gymru yn gorfod bodloni ar wasanaeth llai aml sydd gyffelyb â gwasanaeth trydydd dosbarth.

“Mae nifer o’m etholwyr yn defnyddio’r trên o Fangor yn aml iawn, naill ai ar gyfer gwaith neu hamddena, gyda nifer yn teithio i Gaer ac ymhellach i ffwrdd i weithio.

“A yw’n dderbyniol fod pobl sy’n cychwyn taith o Fangor yn gorfod eistedd ar y trên am dros ddwy awr dim ond er mwyn cyrraedd Crewe, pellter o 84 milltir, tra bod y rhai sy’n teithio o Lundain i Crewe yn cwblhau y daith o fewn dwy awr er eu bod yn teithio ddwywaith y pellter.

“Gyda achos busnes cadarn dros drydaneiddio’r rheilffordd yn y gogledd, mae pobl Arfon eisiau gwybod pam bod yna oedi a pham fod HS2 yn cael y flaenoriaeth, cynllun sy’n debygol o gymryd blynyddoedd i’w gwblhau.

“Dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ar uwchraddio rheilffordd gogledd Cymru a symud ymlaen â’r trydaneiddio cyn gynted a phosib fel bod fy etholwyr ac eraill ar draws y gogledd yn elwa o wasanaeth traws-ffiniol cyflym a dibynadwy, gan roi gogledd Cymru yn gydradd â gweddill y DU.”

Ychwanegodd yr Athro John G. Hughes: “Mae'r gwasanaethau a'r isadeiledd presennol yn wael ac angen sylw brys.

"Does dim amheuaeth fod economi gogledd orllewin Cymru angen mynediad cyflymach at ddinasoedd fel Llundain, Manceinion, Lerpwl a Birmingham.

“Yn 2015, dechreuodd a terfynodd tua miliwn o deithwyr eu siwrneau ym Mangor a Chaergybi, a byddai hyn yn cynyddu yn sylweddol pe bai gwasanaethau yn gwella.

“Nid yn unig byddai’r economi leol yn elwa o welliannau i’r rheilffordd wrth i ni weld mwy o bobl yn ymweld â’r ardal, ond mae busnesau a'r Brifysgol ei hun yn gweld manteision enfawr pa bai amseroedd teithio yn lleihau a theithiau yn cael eu gwneud yn llawer haws.”

Rhannu |