Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mawrth 2017

Enillydd Oscar ym Mhrifysgol Aberystwyth

Bydd dangosiad arbennig o’r ffilm Apocalypse Now yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth nos Iau 23 Mawrth yng nghwmni’r golygydd ffilm a sain Walter Murch, sydd wedi ennill tair gwobr Oscar am ei waith. 

Yn dilyn y dangosiad, bydd sesiwn holi ac ateb gyda Walter Murch sydd wedi gweithio ar ystod o ffilmiau llwyddiannus gan gynnwys The Talented Mr Ripley (1999), The English Patient (1996), Ghost (1990), American Graffiti (1973) a ffilmiau’r Godfather.

Mae’r digwyddiad yn agored i’r cyhoedd ac yn rhan o ymweliad ehangach sydd wedi ei drefnu gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (TFTS) Prifysgol Aberystwyth.

Fore Gwener 24 Mawrth, bydd Walter Murch yn cynnal dosbarth meistr i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy’n astudio ffilm a theledu.

Mae e wedi gweithio gyda rhai o gyfarwyddwyr ffilm fwyaf blaenllaw America, gan gynnwys Francis Ford Coppola a George Lucas, ac mae’n awdur llyfr In the Blink of an Eye sy’n cael ei ystyried yn ddarllen angenrheidiol i unrhyw sydd â diddordeb yn y grefft o olygu ffilm. 

Mae’r ymweliad gan un o brif olygyddion Hollywood wedi cael ei drefnu gan Huw Penallt Jones a ymunodd â’r Brifysgol yn 2016 ac sydd â gyrfa ddisglair yn y diwydiant ffilm.

Ymhlith y rhestr hir o gredydau cynhyrchydd sydd gan Huw mae Interlude in Prague (2016), Damascus Cover (2015), The Man Who Knew Infinity (2014, Cyd-Gynhyrchydd),  Patagonia (2010), The Edge of Love (2008) a Cold Mountain (2003, Cynhyrchydd Gweithredol) lle y cyfarfu â Walter Murch am y tro cyntaf.

Meddai Huw: "“Mae Walter Murch yn cael ei gydnabod yn un o feistri ei faes.

"Fe fathodd y term 'dylunydd sain' tra’n gweithio ar Apocalypse Now ac mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r defnydd o sain mewn ffilmiau.

"Yn ddi-os, mae’n un o’r golygyddion ffilm a dylunwyr sain uchaf ei barch ym myd y sinema heddiw.

“Mae Walter wedi bod yn golygu sain yn Hollywood ers 1969 pan fu’n gweithio ar ffilm Francis Ford Coppola The Rain People.

"Enillodd ei enwebiad cyntaf am wobr Academi ar gyfer The Conversation (1974) yna aeth ymlaen i ennill ei Oscar cyntaf ar gyfer Apocalypse Now (1979) cyn sicrhau dwy wobr Oscar ar gyfer y Sain Gorau a’r Golygu Ffilm Orau am ei waith ar The English Patient (1996 ) – yr unig un erioed i ennill y ddwy wobr yma am yr un ffilm.”

Mae Huw yn gweithio gyda’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar gynllun gradd israddedig newydd mewn Cynhyrchu Ffilm Ymarferol, a fydd yn dechrau ym mis Medi yn amodol ar ei dilysu.

Dywedodd Anwen Jones, pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn bod Walter Murch yn dod i Aberystwyth i rannu ei brofiad helaeth gyda’n myfyrwyr a’r gymuned ehangach.

"Mae’n cael ei gydnabod fel arloeswr yn y grefft o olygu yn ogystal â rhywun sy’n dod ag angerdd a meddwl deallusol i’w waith.

“Fel Adran, rydyn ni’n rhoi pwyslais ar weithio’n agos gyda’r diwydiant er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau y mae cyflogwyr heddiw yn chwilio amdanyn nhw.

"Mae lleoliadau gwaith strwythuredig yn nodwedd o sawl un o’n cynlluniau gradd ac fel Huw, mae sawl aelod staff wedi gweithio yn y byd ffilm a theledu cyn ymuno â’r adran.”

Mae tocynnau i weld y dangosiad arbennig o Apocalypse Now gyda Walter Murch ar gael o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae’r gost i aelodau o’r cyhoedd yn £6.50 (consesiynau’n £6; £5.50) ond mae’n rhad ac am ddim i fyfyrwyr a staff y Brifysgol.

Yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016, roedd Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth ymhlith y deg gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr ym maes Sinemateg gyda’r Adran yn cael sgôr boddhad cyffredinol o 92%.

Llun: Walter Murch

Rhannu |