Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mawrth 2017

Goleuni ar ddiwedd y twnnel - nesáu at gwblhau gwaith ar Lôn Las Ogwen

Mae trigolion a chynrychiolwyr lleol wedi cael golwg cychwynnol ar adran 800 medr o Lôn Las Ogwen a fydd yn agor i’r cyhoedd yn yr wythnosau nesaf.

Mae’r llwybr aml-ddefnydd a fydd yn rhedeg ar hyd yr hen dwnnel rheilffordd rhwng Bethesda a Tregarth yn cael ei adnabod fel y ‘Tynal Tywyll’ yn lleol. Roedd aelodau o’r grŵp pop o’r 1990au cynnar a gafodd eu henwi ar ôl y twnnel ynghyd a’r AC Siân Gwenllïan ymhlith rheini aeth draw i weld sut y mae’r gwaith yn dod ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, aelod lleol ward Arllechwedd ac Aelod Cabinet ar faterion trafnidiaeth ar Gyngor Gwynedd: “Roeddwn i’n falch iawn o weld bod gwaith yn agosau at ei gwblhau. Pan fydd yn agor i’r cyhoedd yn y dyfodol agos, bydd rhan y Tynal Tywyll yn cwblhau llwybr Lôn Las Ogwen rhwng Bangor a Bethesda.

“Ar ôl cau’r rheilffordd bron i 60 mlynedd yn ôl, roedd y twnnel a’r draphont wedi ei gau i’r cyhoedd. Ond, mae’r prosiect pwysig hwn yn dod ag adeiladwaith lleol pwysig nôl i ddefnydd, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld cerddwyr a beicwyr yn gwneud defnydd o’r twnnel yn ei newydd wedd.”

Meddai’r Cynghorydd Gwen Griffith, sy’n cynrychioli Tregarth ar Gyngor Gwynedd: “Mae awydd amlwg wedi bod yn lleol i weld y twnnel yn ail-agor ac rydym yn ofnadwy o falch bod gwaith yn dod ymlaen yn dda ar y prosiect.

“Pan mae’n agor, rydw i’n sicr y bydd rhan yma o’r llwybr ymhlith y gorau yng Nghymru, a bydd yn gam pwysig wrth wella cyswllt trafnidiaeth ar gyfer y rheini sy’n dymuno mwynhau ardal Dyffryn Ogwen ar droed ac ar gefn beic.”

Mae disgwyl i ran newydd y llwybr, sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru agor i’r cyhoedd yn y dyfodol agos.

Yn dilyn gorffen y gwaith, bydd yn bosib teithio ar hyd yr hen dwnnel rheilffordd rhwng Tregarth a Bethesda heb orfod dilyn y brif ffordd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl o bob oedran i gerdded a beicio rhwng pentrefi. Bydd hefyd yn gwneud y siwrne i’r gweithle o Ddyffryn Ogwen i ardal Bangor yn fwy cyfleus a bydd yn atyniad i ymwelwyr hefyd, a bydd yn hwb i fusnesau lleol.

Lluniau

1 – Y Cynghorydd Dafydd Meurig, Sian Gwenllian AC, y Cynghorydd Gwen Griffith ac Ian Morris o grwp Tynal Tywyll

2 – Daeth criw da draw i weld sut mae’r gwaith yn bwrw ymlaen ac i ddadorchuddio’r enw Tynal Tywyll ar y rhan newydd o Lôn Las Ogwen a fydd yn agor yn fuan

3 – Gwaith yn bwrw ymlaen ar Tynal Tywyll

Rhannu |