Mwy o Newyddion
Siom wrth i ddeintydd Dolgellau gau
Mae Aelod y Cabinet Cysgodol dros Faterion Gwledig Simon Thomas AC wedi disgrifio’r penderfyniad i gau unig ddeintydd GIG Dolgellau fel ‘ergyd arall i ogledd gwledig Cymru’.
Bydd 4,500 o gleifion yn colli eu deintydd GIG yn Nolgellau ar ddiwedd y mis.
Bydd y Deintydd ‘My Dentist’ yn cau yn Nolgellau ar 31 Mawrth ac mae deintydd arall y dre yn breifat.
Gofynnodd yr AC o Blaid Cymru am ddatganiad gan Ysgrifennydd Cabinet y Llywodraeth dros Iechyd Vaughan Gething ynglŷn â’r prinder yn neintyddion GIG yn Nolgellau.
Dywedodd Aelod y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: “Unwaith eto, mae trigolion gogledd Cymru yn cael eu hamddifadu gan Lywodraeth Cymru a’r GIG.
"Dyma ergyd arall i economi gwledig Cymru pan rydych yn ystyried y miloedd o gleifion sy’n mynd i dref Dolgellau am eu hapwyntiadau.
“Bydd y newid hwn yn effeithio ar bawb o rieni sy’n gweithio i’r henoed gyda’r Deintydd GIG agosaf mor bell â’r Trallwng, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.
“Mae yna duedd pryderus o wasanaethau hanfodol yn cael eu tynnu yn ôl o’n trefi a phentrefi gwledig.
"O’r GIG i wasanaethau bancio, mae trigolion y Canolbarth, y Gorllewin a’r Gogledd yn cael eu gadael ar ôl gan Lywodraeth Cymru."
Yn ei ymateb i Simon Thomas AC, sicrhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r achos ac yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ail-sefydlu'r gwasanaeth cyn gynted â phosib.
Ond mynnodd Simon Thomas AC bod rhaid i Lywodraeth Cymru i wneud fwy i amddiffyn gwasanaethau lleol yng Nghymru wledig: “Ni ddylai fod angen i ail-sefydlu’r gwasanaethau lleol yma gan y dylai’r gwasanaethau fod wedi cael eu hamddiffyn o’r cychwyn.
"Mae trigolion Cymru wledig wedi talu eu trethi hyd eu hoes ac yn haeddu’r un ansawdd o wasanaethau fel y mae eraill, yn rhannau trefol Cymru, yn mwynhau.
“Bydd Plaid Cymru yn parhau i gefnogi trigolion gwledig gyda’r nod o sicrhau economi llewyrchus i Gymru wledig.”