Mwy o Newyddion
Lansiad rhifyn cyntaf Y Stamp - cylchgrawn llenyddol newydd
Cynhelir lansiad swyddogol rhifyn cyntaf Y Stamp, cylchgrawn llenyddol newydd sbon yn Nhafarn y Cŵps, Aberystwyth, ar 23 Mawrth.
Bydd y noson yn gyfle i glywed darlleniadau gan rai o gyfrannwyr y rhifyn cyntaf, ynghyd â chlywed cerddi gan y bardd gwadd, Eurig Salisbury. I goroni’r noson, bydd y gantores Bethany Celyn yn perfformio.
Mae’r rhifyn wedi tyfu o brosiect ar-lein, ar wefan http://ystamp.cymru, lle cyhoeddwyd eisoes ddarnau llenyddol, cyfweliadau, cartwnau ac adolygiadau yn wythnosol.
Fodd bynnag, dyma’r cyntaf o dri rhifyn print a fydd yn cael eu cyhoeddi eleni.
Bydd nifer cyfyngedig ar werth am £3 y copi, ond bydd hefyd modd eu hargraffu ar ffurf PDF oddi ar y wefan.
Mae’r rhifyn cyntaf yn cynnwys cyfraniadau gan Menna Elfyn, Morgan Owen, Gareth Evans Jones, Caryl Bryn, Rhys Trimble, Siân Miriam, Gwen Saunders Jones, Caryl Angharad Roberts ac eraill.
Sefydlwyd y cylchgrawn gan fyfyrwyr: Elan Grug Muse (Prifysgol Abertawe), Llŷr Titus (Prifysgol Bangor), Miriam Elin Jones ac Iestyn Tyne (Prifysgol Aberystwyth).
Mae’r pedwar hefyd yn llenorion prysur, ar fin neu wedi cyhoeddi eu gwaith eisoes, ac wedi gweld yr angen am lwyfan newydd i annog eraill i gyhoeddi eu gwaith.
Rhan o genhadaeth y cylchgrawn yw cynnig llwyfan llenyddol newydd ac ysgogi amrywiaeth llenyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gobeithir annog ‘sgrifennwyr ac arlunwyr i fwrw ati o’r newydd, ynghyd â chynnig platfform cyhoeddi i awduron sydd eisoes yn adnabyddus.
Bydd copïau o’r rhifyn i’w cael ar y noson, neu i’w prynu gan y golygyddion yn uniongyrchol wedi hynny.