Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mawrth 2017

Chwilio am gantorion ifanc talentog i rannu llwyfan â Syr Bryn ac enwogion eraill

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i ganwr ifanc talentog fydd yn cael perfformio gyda Syr Bryn Terfel a sêr operatig eraill.

Fe fydd y bas-bariton enwog yn canu ochr yn ochr â’r tenor o Lithuania Kristian Benedikt a’r soprano o Latvia Kristine Opolais yn y clasur operatig, Tosca, yr haf hwn.

Mae’r gyngerdd ar nos Fawrth, 4 Gorffennaf yn cael ei noddi gan Barc Pendine, corff sy’n rhoi pwyslais mawr ar y celfyddydau, a bydd yn gymorth i’r ŵyl i ddathlu ei phen-blwydd yn 70ain mewn steil.

I gwblhau’r cast cyffrous, mae’r trefnwyr yn chwilio am fechgyn ifanc sydd â lleisiau treble, neu boy sopranos, i chwarae rhan y Bugail Ifanc.

Fe fydd y clyweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 15 Ebrill yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol lle bydd gofyn i ymgeiswyr ganu dau ddarn - I give you sighs o Act 3 Tosca a darn o'u dewis hwy.

Mewn wythnos sy’n llawn o adloniant safonol, gan gynnwys perfformiadau gan y canwr Jazz Gregory Porter a’r band chwedlonol Manic Street Preachers, mae’r trefnwyr yn addo y bydd y gyngerdd yma yn un o’r uchafbwyntiau.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, fe fydd Syr Bryn Terfel a Pharc Pendine yn ymuno unwaith eto i noddi cystadleuaeth Llais y Dyfodol - sy’n anelu at ddarganfod cantorion ifanc gorau’r byd gan roi hwb ariannol o £6,000 i’r enillydd ynghyd a Tharian Pendine.

Ond cyn hynny, Tosca fydd yn mynd a bryd y gynulleidfa - stori garu ddramatig wedi ei phlethu â chwant, gwleidyddiaeth a llofruddiaeth.

Mae’r opera yn adrodd stori drasig y gantores Floria Tosca, fydd yn cael ei phortreadu gan Kristine Opolais, a’i brwydr i achub ei chariad Cavaradossi. Benedikt fydd yn chwarae rhan Cavaradossi, sy’n ceisio dianc oddi wrth gymeriad Syr Bryn sef Scarpia, pennaeth yr heddlu.

Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru o dan arweiniad Gareth Jones fydd yn cyfeilio i’r triawd profiadol.

Dywedodd cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths: “Gan adeiladu ar lwyddiant Carmen a Sweeny Todd, mae hwn yn brosiect anturus arall gan yr Eisteddfod.

"O dan gyfarwyddyd Amy Lane fe fydd y perfformiad yn cynnwys gwaith fideo anhygoel gyda’r holl beth yn cael ei lwyfannu yn gynnil er mwyn dod a’r opera hyfryd hon yn fyw.

“Trwy gyfuno arbenigedd a phrofiad y dalent Gymreig a rhyngwladol, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cyflwyno byd yr opera i gynulleidfa amrywiol ac ehangach.

“Rydym yn ddiolchgar i Barc Pendine am noddi cyngerdd Tosca ac am eu cefnogaeth hael i gystadleuaeth Llais y Dyfodol yn hwyrach yn yr wythnos.

“Mae hyn yn dangos sut y bydd cefnogaeth Pendine yn gymorth i ddod a pherfformwyr opera byd-enwog i lwyfan Llangollen gan hefyd lansio gyrfaoedd ser y dyfodol."

Dywedodd perchennog Parc Pendine, Mario Kreft MBE: “Rydym yn falch iawn o fedru noddi’r perfformiad hwn o Tosca – perfformiad sy’n sicr o fod yn brofiad hudolus i’r gynulleidfa o ystyried y dalent operatig arbennig.

“Mae’r ŵyl yn agos iawn at ein calonnau. Mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn rhan holl bwysig o’n rhaglenni cyfoethogi ym Mharc Pendine ac rydym wir yn credu eu bod yn gwella safon bywyd ein preswylwyr yn ein cartrefi yn Wrecsam a Chaernarfon.

“Mae’r disgwyl i’r gyngerdd fod yn un gwbl gofiadwy a fydd yn arddangos talent operatig ryngwladol ar ei orau, a hynny ar ein stepen drws yma yng ngogledd Cymru. Mae’n mynd i fod yn noson i’w chofio."

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac i archebu tocynnau, ewch i http://www.international-eisteddfod.co.uk

Rhannu |