Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mawrth 2017

Gwyddonwyr Aberystwyth yn cyfrannu at fuddsoddiad yr UE o €7m yn niwydiant pysgodfeydd Cymru ac Iwerddon

Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth am chwarae rhan mewn ymchwil morol sydd wedi sicrhau mwy na €7m o arian gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r cyllid hwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu i warchod bywyd morol tra'n datblygu'r pysgodfeydd a diwydiannau dyframaeth yng Nghymru ac Iwerddon, ac yn helpu i gryfhau cysylltiadau economaidd a chydweithio trawsffiniol rhwng y ddwy wlad.

Bydd y cyllid yn cefnogi ymchwiliad gwyddonol o'r cyfleoedd a'r risgiau a berir gan newid yn yr hinsawdd ym Môr Iwerddon a'r defnydd o dechnoleg i leihau costau ynni ac i helpu busnesau i ddatblygu cynnyrch a phrosesau newydd.

Bydd gwyddonwyr IBERS Prifysgol Aberystwyth yn gweithio ar brosiect €5.5m Bluefish, a arweinir gan Brifysgol Bangor ac yn gweithio gyda phartneriaid y Sefydliad Morol, Bord Iascaigh Mhara, Coleg Prifysgol Cork, a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd yr Athro Paul Shaw o IBERS: "Hyd yma, ychydig o ymchwil sydd wedi bod yn ardal Môr Iwerddon yn cyfeirio at effaith newid hinsawdd ar bysgodfeydd a dyframaethu lleol, ac mae angen mwy o wybodaeth i ddarparu cyngor gwell i bysgotwyr a llunwyr polisi i gynorthwyo wrth adeiladu busnesau gwydn a chynaliadwy yn sgil newid hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth forol.

"Mae pysgodfeydd morol a dyframaeth werth degau o filiynau o bunnoedd i economïau Cymru ac Iwerddon, ac yn cefnogi nifer fawr o swyddi ar eu harfordiroedd."

Bydd tîm IBERS, dan arweiniad yr Athro Paul Shaw ochr yn ochr â Dr Joe Ironside, Dr Jim Provan a Dr Niall McKeown, yn arwain y gweithgareddau Bluefish a fydd yn ymchwilio i fioamrywiaeth genetig pysgod a chregynbysgod, a modelu newidiadau posibl mewn dosbarthiad rhywogaethau ar draws Môr Iwerddon.

Bydd y prosiect yn cyflogi dau o ymchwilwyr ôl-ddoethuriaeth a bydd yn cysylltu i ymchwil yn IBERS ar amrywiaeth, esblygiad a deinameg rhywogaethau sy’n cael eu pysgota ac effeithiau posibl newid hinsawdd ar gefnforoedd y dyfodol.

Bydd y prosiect hefyd yn rhyngweithio â gwaith rheoli pysgodfeydd sy'n cael ei wneud yn IBERS gan yr Athro Shaw ar y cyd ag Adran Y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nod Bluefish yw cynnal astudiaethau sylfaenol i leihau bylchau gwybodaeth mewn deall yr ecosystem forol ac effeithiau hinsawdd, ac i drosglwyddo’r wybodaeth honno i gymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill, ynghyd ag arbenigedd traws-genedlaethol ac arfer gorau o ran rheoli pysgod masnachol, cregynbysgod a dyframaeth yng nghyd-destun newid hinsawdd.

Mae llywodraethau Iwerddon a Chymru wedi amlygu’r sectorau pysgota a dyframaethu ym Môr Iwerddon fel rhai sy’n economaidd ac yn gymdeithasol bwysig, ac mae’r ddwy wlad wedi cydnabod yr angen i gynyddu'r ddau weithgaredd.

Mae'r prosiect Bluefish yn derbyn cefnogaeth o €5.5m o arian yr UE drwy raglenni cydweithredu Iwerddon-Cymru yr UE. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni ar gael yma: http://www.irelandwales.eu

Rhannu |