Mwy o Newyddion
RhAG yn galw am Ffair Ieithoedd i Gymru
MAE Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ffair Ieithoedd yma yng Nghymru.
Daw hyn wrth i drefnwyr baratoi i gynnal Language Show Scotland 2017 yn ninas Glasgow ar 10-11 Mawrth.
Mae Ffair Iaith yr Alban, sy’n rhan o ddigwyddiad iaith mwyaf Ewrop, am ddim i’r cyhoedd, ac yn derbyn cefnogaeth swyddogol gan Lywodraeth yr Alban.
Cynhelir y digwyddiad ar gyfer unrhyw un sydd yn ymddiddori mewn ieithoedd ac mae’n cynnwys seminarau, dosbarthiadau blasu iaith, fforymau byw a pherfformiadau diwylliannol mewn dathliad anhygoel o ieithoedd y byd, gan gynnwys yr Aeleg, gyda phresenoldeb amlwg gan Bòrdh na Gàidhlig, corff sy’n gweithio i hyrwyddo’r Aeleg yn yr Alban.
Dywedodd Lynne Davies, cadeirydd cenedlaethol RhAG: “Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft wych o’r hyn sydd ei angen yma yng Nghymru.
"Dyma ddathliad bywiog, egnïol a chyffrous sy’n gosod ieithoedd lleiafrifol ochr yn ochr â ieithoedd 'mawr' y byd.
"Dyma’n union sydd ei angen er mwyn atgyfnerthu statws ein ieithoedd brodorol fel ieithoedd cyfoes, hyderus ac allblyg.
“Roedd gan y Llywodraeth raglen i hyrwyddo ieithoedd modern, dan arweiniad CILT. Ond mae’n arwyddocaol fod y corff hwnnw wedi dirwyn i ben erbyn hyn, er bod niferoedd sy’n astudio ieithoedd modern yn disgyn bob blwyddyn.
"Mae angen dirfawr am athrawon iaith - pob iaith fodern gan gynnwys y Gymraeg - a byddai'n dda i'r Llywodraeth gynllunio trefn apelgar i ddenu ieithwyr y dyfodol.
“Wrth i’r Llywodraeth amcanu i gyrraedd ei darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg yn gwbl greiddiol wrth weithredu’r polisi hwnnw yn llwyddiannus.
"Mae cyfle euraid yma i nifer o randdeiliaid a phartneriaid amlwg gydweithio – yn gynllunwyr iaith, y sector addysg, gan gynnwys Addysg Bellach ac Addysg Uwch a mudiadau iaith yn ehangach, gyda’r Llywodraeth yn arwain ar y gwaith.
“Byddai’n gyfle penigamp i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd a chynnig perspectif rhyngwladol i’r profiad ieithyddol Cymreig.
"Byddai Ffair Ieithoedd yn agor cil y drws ar amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ein cymunedau yng Nghymru ac yn dangos i’r byd ein bod yn wlad sy’n dathlu pob iaith, pell ag agos.
“Byddai RhAG wrth ein bodd yn cefnogi y math hwn o ddigwyddiad yma yng Nghymru.”
Llun: Lynne Davies