Mwy o Newyddion
Elusennau anabl yn hynod feirniadol o doriadau cyllid Llywodraeth Cymru
Amlygodd Plaid Cymru ddoe (8 Mawrth) bryderon miloedd o deuluoedd gyda phlant anabl ynghylch toriadau llym Llafur i Gronfa'r Teulu.
Mae sefydliadau gan gynnwys Gofalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y toriadau hyn ers misoedd.
Mae Cronfa'r Teulu yn cynnal dros 5,000 o deuluoedd incwm isel ar draws Cymru bob blwyddyn. Mae'r gronfa yn dosbarthu arian cyhoeddus ar draws Cymru, a'r DU, ar ffurf grantiau i deuluoedd sydd â phlant sâl ac anabl.
Er bod y gronfa wedi cael ei gynnal yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae Llywodraeth Cymru wedi torri'r gyllideb i ddim ond 20% o'i lefel flaenorol ar gyfer y flwyddyn nesaf, sy'n golygu y bydd dros 4,000 o deuluoedd yn colli allan bob blwyddyn.
Mae'r gronfa yn un o’r unig fecanweithiau sydd ar gael ar gyfer dosbarthu arian yn uniongyrchol i'r teuluoedd hyn.
Wrth siarad yn dilyn dadl yn y Cynulliad - gafodd ei galw gan Blaid Cymru - wedi ei hanelu tuag at wrthdroi'r toriadau dywedodd, Rhun ap Iorwerth AC, Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Gallwch farnu cymdeithas wrth edrych ar sut y mae'n trin ei phobol fwyaf agored i niwed.
"Ac ar hyn o bryd nid ydym yn sgorio'n uchel iawn ar hyn.
"Os ydi’r Torïaid hyd yn oed wedi penderfynu cynnal y gronfa hon yn Lloegr, yna mae methiant Llafur i gynnal y gronfa yn anfaddeuol.
“Os yw'r penderfyniad i dynnu’r arian yn fwriadol neu yn ganlyniad annisgwyl o newid y model ariannu - yr wyf am i'r penderfyniad gael ei wrthdroi.
“Daw penderfyniad Llywodraeth Cymru yn sgil eu penderfyniad fod rhaid i'r Gronfa Teulu wneud cais am ei chyllid o’r Cynllun Grant y Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Trydydd Sector Cynaliadwy. Cynllun gydag uchafswm grant o £500,000 y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â'r arian blaenorol o tua £2.5 miliwn y flwyddyn.
“Nid oes unrhyw genedl arall yn y DU wedi gwneud y penderfyniad hwn, a dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Lloegr parhad o gyllid ar y lefelau presennol ar gyfer y 3 blynedd nesaf.”
Wrth siarad ar welliant gan Lywodraeth Llafur Cymru i ddadl Plaid Cymru, meddai Rhun ap Iorwerth AC: "Yn anffodus, mae gwelliant y Llywodraeth Lafur i'r ddadl hon yn methu â chydnabod nac ymdrin ag effaith ariannol uniongyrchol hyn ar deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl o dorri dros £5.5miliwn dros dair blynedd.
"Mae dros 4,000 o deuluoedd y flwyddyn yng Nghymru bellach yn methu cael mynediad at grant cyfartalog blynyddol o £500.
"Tydi hyn ddim digon da."
Ychwanegodd: "Ni allwn adael i Gymru syrthio y tu ôl i weddill y DU yn hyn o beth.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau cadarnhaol i sicrhau fod teuluoedd ledled Cymru yn cael y lefelau tebyg o gefnogaeth y mae teuluoedd eraill ar draws y DU yn ei gael.
"Mae pleidlais heddiw yn brawf o honiadau Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol. Mae'n bryd sefyll yn y bwlch, a diogelu’r arian hwn i grŵp o bobl hynod fregus."
Meddai Bethan Jenkins, llefarydd Plaid Cymru ar gyfer cymunedau a thlodi ac Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru: "Sut mae Llafur yn credu y bydd teuluoedd yn ymdopi, pan mae llawer yn dibynnu ar hyn o bryd ar y Gronfa Teulu ar gyfer eitemau cartref hanfodol neu offer ategol i helpu gyda gofal?
"Mae eu dadleuon fod y cyllid presennol yn cael ei gynnal, ac mae dim ond newid y ffynhonnell sydd yn digwydd, yn amlwg yn gamarweiniol - oni bai eu bod heb ddarllen eu ffigurau cyllideb eu hunain.
"Mae hwn yn gwestiwn o flaenoriaethau. Onid yw hi’n flaenoriaeth i wneud yn hollol sicr fod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael y gofal cywir?
"I mi fy hun a Phlaid Cymru dyma’r flaenoriaeth fwyaf, mae'n drueni nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn ymddangos fel petaent yn cytuno mwyach."
Llun: Rhun ap Iorwerth AC