Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mawrth 2017

Cyfle i archrebu tocynnau i Oedfa Eisteddfod Genedlaethol Môn

Eleni eto bydd Cytûn yn cydlynu Pabell Eglwysi Cymru ar ran Eglwysi Ynghyd yng Nghymru.

Maent yn ymestyn gwahoddiad i bobl, fel arfer, i ddod i’r babell i flasu’r te a’r pica, i ymuno yn eu haddoliad, i wrando ar gerddoriaeth, trafodaethau a chyflwyniadau ac i glywed mwy am waith yr eglwysi.

Yn ogystal â hyn, bydd tocynnau ar gyfer mynychu'r oedfa i’w cael drwy gysylltu â Cytûn.

Mi allwch archebu'r tocynnau drwy deipio eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt ar ffurflen gais, sydd i'w gael ar brif dudalen gwefan Cytûn: http://www.cytun.org.uk 

Os na allwch gyflwyno eich cais am docynnau ar wefan Cytûn, fe allwch chi e-bostio'r swyddfa ar y cyfeiriad: post@cytun.org.uk neu ffonio 02920 464 204.

Bydd y tocynnau yn cael eu dosbarthu o swyddfa'r Eisteddfod, nid o swyddfa Cytûn.

Mae'n hanfodol bod unrhyw un sy'n dymuno archebu tocynnau ar gyfer yr Oedfa yn gwneud yn siŵr bod eu manylion wedi cyrraedd Cytûn cyn 31 Mai.

Ni fydd posib archebu tocynnau wedi'r dyddiad hwn.

Rhannu |