Mwy o Newyddion
£32miliwn i leihau’r risg o lifogydd i fwy na 2,000 o gartrefi
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,wedi cyhoeddi grant cyfalaf o £32miliwn i leihau’r risg o lifogydd i ragor na 2,100 o gartrefi a busnesau ledled Cymru.
Caiff yr arian ei neilltuo ar gyfer 2017-18, a dyma’r gyllideb grant fwyaf ers sawl blwyddyn ar gyfer lleihau’r risg o lifogydd.
Yn ddiweddarach heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn esbonio yn y gynhadledd genedlaethol ar Ddysgu Byw gyda Llifogydd y gwaith mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i helpu’r rheini sy’n byw â’r perygl o lifogydd.
Yn ei haraith, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau hefyd bod y Llywodraeth, dros ei thymor pum mlynedd, am fuddsoddi dros £144miliwn o gyllid cyfalaf i reoli’r perygl o lifogydd, hynny ar ben y £150miliwn i’r rhaglen arfordirol.
O hwnnw, caiff £5miliwn ei wario ar ddylunio a datblygu prosiectau i leihau’r risg ar yr arfordir.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio’i haraith hefyd i gyhoeddi y caiff £1miliwn o’r gyllideb llifogydd ei chlustnodi bob blwyddyn am y pedair blynedd nesaf i gefnogi prosiectau bach a chynnal a chadw Awdurdodau Lleol.
Penderfynwyd hynny yn sgil treial llwyddiannus o gynllun grant i gefnogi gwaith bach a ariannodd 73 o brosiectau i leihau’r risg i 700 eiddo ledled Cymru.
Mae hyn yn profi nad cynlluniau mawr drud yn unig sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau.
Meddai Lesley Griffiths: “Mae llifogydd yn gallu cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl.
"Rydyn ni’n gwybod bod yr hinsawdd a phatrymau’r tywydd yn newid ac y byddwn yn debygol o weld mwy o lifogydd o’r herwydd.
"Mae angen inni felly gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r risg i’n cymunedau ond gan eu helpu hefyd i addasu i’r peryglon sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.
“Mae’n dda gen i gadarnhau ein bod am neilltuo £32miliwn yn 2017-18, ein cyllideb cyfalaf fwyaf yn y blynyddoedd diwethaf, i helpu i leihau’r risg o lifogydd i filoedd o gartrefi a busnesau.
"Mae hyn yn tanlinellu’n blaenoriaeth i ddiogelu a chryfhau cymunedau rhag llifogydd.
"Caiff newidiadau eu gwneud hefyd i wneud yn siŵr bod ein cyllid a’n sylw yn canolbwyntio ar yr ardaloedd sy’n wynebu’r peryglon mwyaf.
"Caiff rhaglenni eu blaenoriaethu yn y dyfodol trwy ddefnyddio’r Gofrestr Risgiau Cymunedol, gwybodaeth leol a data am lifogydd y gorffennol."